yn sefyll lle y bu unwaith gaerau Rhufeinig, ond ni ellir profi bod dim cysylltiad hanesyddol rhwng y dref fel y gwelir hi heddiw o ran ei chynllun a'i nodweddion a'r hen gaer a safai yn yr un fan rywbryd cyn y bedwaredd ganrif. Gwelir hyn yn amlwg iawn yng Nghaernarfon. Saif Caernarfon y Rhufeiniwr Segontium—ar fryncyn gerllaw'r ffordd fawr i Feddgelert, ond y mae'r castell a'r dref a adeiladwyd gan Edward I ar lan afon Seiont, lle yr ymarllwys honno i afon Menai. Prin y medrir lleoli rhai o'r caerau Rhufeinig erbyn hyn, gan mor llwyr y diflannodd pob atco amdanynt. Gadawodd y Cymry iddynt fyned yn adfail oherwydd bod canolfan en bywyd hwy yn y wlad ac nid yn y dref. Gwelodd Geralt rywfaint o fawredd yr hen gaerau hyn, a rhydd ddisgrifiad o'r hyn y bu yn syllu arno yng Nghaerleon, ond ymadawsai'r gogoniant oddi yno, ac nid oedd yn aros ond adfeilion muriau'r hen ddinas i awgrymu'r rhwysg a fu yno gynt.[1]
Y mae'r rheswm paham y sefydlwyd ambell dref (a phentref, o ran hynny) i'w weld yn amlwg wrth edrych ar ei safle. Adeiladwyd rhai mewn mannau lle gellid pontio afon, fel Llanrwst ar afon Gonwy; eraill lle yr ymarllwys afon i'r môr, megis Aberystwyth ac Abertawe ac Aberdyfi; ac eraill drachefn ar groesffyrdd, megis Llanerchymedd a Llangefni. Codwyd rhai trefydd i gyflenwi anghenion pobl a gyrchai ar bererindod neu rywbeth o'r fath—Tyddewi, er enghraifft—neu wrth ystlys mynachlog, fel Ewenni, neu gastell, fel Dinbych; ac, fel y ceir dangos, dyma'r ffurf fwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn wir, anodd yw cael tref na bu ryw dro gysylltiad rhyngddi â chastell.
Pe medrid cael rhagor o hanes bore Cymru, y mae'n lled. debyg y gwelid mai'r dref farchnad oedd y ffurf gynharaf ar dref, a bod i rai o'r trefydd hynny hanes didor o gyfnod bore iawn i lawr i'n dyddiau ni. Fel y dywedwyd eisoes, perthynai i bob cymwd adran arbennig a adwaenid fel y faerdref. Yno yr oedd canolfan bywyd diwydiannol y cymwd. Yr oedd y faerdref, fel rheol, yn lled agos i lys yr arglwydd, a naturiol iawn yw casglu bod anghenion y llys wedi peri i ddiwydiannau eraill, heblaw'r diwydiant amaethyddol, dyfu o'i gwmpas yn fore iawn. Fel y gellid tybied, yr oedd ansawdd bywyd y llys yn uwch na bywyd y rhelyw o bobl y cymwd, a galwai am foethau a oedd allan o gyrraedd y taeog. Yma, felly, ar y faerdref, y ceid crefftwyr y cymwd yn byw, a threulient ran helaeth o'u hamser yn cynhyrchu nwyddau at wasanaeth y
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 51.