cestyll, ac ar ol dyddiau Edward i rai trefydd eraill hefyd nad oedd gastell ynglŷn â hwy, megis Niwbwrch, Nefyn, Pwllheli, a'r Bala. Ni wyddys i Dywysogion Cymru erioed fabwysiadu'r cynllun hwn i sefydlu trefydd; oni wnaeth Llywelyn ap Gruffydd, un o dywysogion Powys, hynny yn Llanfyllin, a'i dad Gruffydd yn y Trallwng. Ond fel y ceir gweled, yr oedd dylanwad y Norman yn amlwg ar y breinlenni hynny hefyd.[1]
Rhed bron yr un syniadau trwy'r holl siartrau hyn, a dichon mai'r dull rhwyddaf i ddwyn bywyd beunyddiol y bwrdeis gerbron yw craffu ar rai o'r nodweddion cyffredin hynny.
Cychwyn y rhan fwyaf gyda dywedyd bod y fan a'r fan o hynny allan i gael ei ystyried yn fwrch neu fwrdeisdref rydd. Nid oes, mewn gwirionedd, unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau air, ac nid yw ychwanegu'r gair rhydd yn golygu bod gan y naill fwy o ryddid na'r llall.[2] Fel arwydd ymarferol o realiti'r rhyddid hwn ac o'r gorfforaeth a oedd i dyfu ohono yn y man, caniateid i'r bwrdeis benodi dau feili i'w cynrychioli yng nghario allan waith y fwrdeisdref. Dewisid y beili, fel rheol, ar ddygwyl Mihangel. Dyma gnewyllyn y llywodraeth leol, ac er bod cwnstabl y castell, lle byddai un, yn gweithredu fel maer y fwrdeisdref, nid oedd y dinasyddion heb elfennau hunan-lywodraeth. Rhoid iddynt hawl i gynnal llys cyfraith o'r eiddynt eu hunain heb ymyriad y siryf, er nad oeddynt yn rhydd oddi wrth ymweliadau barnwyr y brenin pan fyddent ar gylch. Caniateid iddynt garchar o'r eiddynt eu hunain, lle cosbid troseddwyr a dorrai ddeddfau'r ddinas, ond os byddai'r trosedd yn golygu colli bywyd neu dorri aelod, hawliai'r brenin iddo gael ei brofi yn ei lysoedd ef. Rhoid i'r bwrdeis hefyd ganiatâd i gael mechniaeth pan gyhuddid hwy am drosedd, pryd y cedwid troseddwr o ardal wledig yng ngharchar hyd ddydd praw.
Un o gwestiynau llosg y cyfnod oedd gwanc y penaethiaid am gymryd y tir gwyllt a'i droi yn dir hela iddynt hwy eu hunain, ac y mae mewn llawer o'r siartrau gyfeiriad at ryddid oddi wrth y gorthrwm hwnnw; hynny yw, dywedir mewn byr
- ↑ Rhoed siartr i'r Trallwng gan Ruffydd yn 1263—yn agos i ugain mlynedd cyn darostwng y Gogledd—ac i Lanfyllin gan Lywelyn yn 1293, ond yr oedd tywysogion Powys wedi cydnabod uchafiaeth brenhinoedd Lloegr ymhell cyn hynny.
- ↑ Myn Tait na olygai'r gair bwrch rhydd (liber burgus) fwy na rhyddid oddi wrth daeogaeth y Faenor. Ar y llaw arall, tybia Gross y golygai gael yr holl freintiau hynny a oedd yn gysylltiedig â bywyd tref.Nodyn:Gweler nodiadau Tait ar lyfr Ballard, British Borough Charters, Cyf. 2, dan y pennawd, "Liber Burgus."