Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiriau nad yw tir y bwrch i gael ei droi yn fforest nac yn dir i fagu cwningod. Braint arall oedd cael gwared â'r Iddewon a oedd yn ddraen yn ystlys masnachwyr y cyfnod, oherwydd y llogau afresymol a godent am roi benthyg arian ac am y defnyddid hwy yn fynych gan y brenin i gasglu trethi. Dichon, fodd bynnag, mai'r arwydd sicraf o'r rhyddid a fwynheid yn y dref oedd y gallai unrhyw un a fedrai ffoi i'r dref ac aros yno am ddiwrnod a blwyddyn hawlio'i ryddid, beth bynnag oedd ei gyflwr cyn hynny. Bu hyn yn gaffaeliad mawr, a mynych y cyrchai'r taeog, a flinasai ar fywyd llafurus y faenor, i'r ddinas er mwyn dyfod yn ŵr rhydd. Wrth gwrs, rhaid oedd iddo gymryd ei ran ym mywyd y ddinas—scot and lot, fel y dywedid—hynny yw, rhaid oedd iddo fentro ei siawns a chymryd y drwg a'r da, y cyfrifoldeb yn ogystal a'r fraint, a oedd yn gysylltiedig å bywyd dinesydd.

Câi'r bwrdeis freintiau masnachol hefyd. Rhaid oedd iddynt, i raddau helaeth, ddibynnu ar ddiwydiant a masnach am foddion cynhaliaeth, ac er mwyn masnachu, rhaid oedd cael caniatâd i gario nwyddau o fan i fan ar draws y wlad—gorchwyl anos yn y dyddiau hynny nag yw heddiw. Pan estynai arglwydd arbennig fraint o'r fath, ni allai, wrth gwrs, fyned dros derfynau ei arglwyddiaeth ei hun, ond os byddai'r dref ar dir y goron, cyrhaeddai'r rhyddid hwn dros holl diriogaethau'r brenin, sef y rhannau hynny o Gymru a oedd yn ei feddiant, Lloegr a rhannau helaeth o Ffrainc. Er enghraifft, rhoddodd Llywelyn ap Gruffydd ap Gwenwynwyn siartr i dref Llanfyllin, ond gan nad oedd ond dau gymwd—Mechain Uwch y Coed a Mochnant uwch Rhaeadr—yn ei feddiant ef, nid oedd llawer o werth yn y caniatâd a roed i'r bwrdeis i fasnachu'n rhydd trwy'r holl diriogaeth. Ar y llaw arall, rhoddodd Rhisiart II siartr i dref Groesoswallt yn 1399 a rhyddhaodd fasnachwyr y dref oddi wrth bob toll trwy ei diriogaethau i gyd, ag eithrio dinas Lundain; a chyffelyb oedd y breintiau a gâi dineswyr bwrdeisdrefi'r goron yng Ngwynedd yn nyddiau Edward I.

Ynglŷn â masnach y ceir cyfeiriad at Urdd y Masnachwyr—y "Gild,"[1] fel y gelwid hi. Nid oes odid Siartr na chyfeiria at y Gildo neu at y dreth—yr Hanse—y byddent yn arfer a'i thalu. Meddai masnachwyr y cyfnod gyfundrefn a oedd gyfled ag Ewrob, gyda'i chanolfan, fel rheol, yn ninasoedd

  1. Cyfrif Dr. E. A. Lewis y ceir y Gild yn tua hanner trefydd Cymru. Nid oes són amdani, wrth gwrs, ym mwrdeisdrefi bychain Tyddewi a Sir Faesyfed. —Cymmrodor, XXIV, 93.