Gogledd Germani, a chyda sefydliadau lleol ymhob tref o bwys ar y cyfandir. Yr oedd bod yn aelod o'r urdd leol yn anhepgor i fedru masnachu o gwbl.
Naturiol iawn oedd i Gild y masnachwyr chwarae rhan bwysig ym mywyd y dref, ac yr oedd perthynas agos rhyngddi â'r gorfforaeth leol, fel y gellid ei galw. Perthynai iddi neuadd, a ddaeth mewn dyddiau diweddarach i gael edrych arni fel neuadd y dref. Wrth gwrs, mewn llawer tref ceid neuadd drefol hefyd, ond y mae'r ffaith bod neuadd y Gild yn cael ei defnyddio mor fynych fel neuadd y dref yn dangos mor agos oedd y berthynas rhyngddynt.
Nid bob amser, fodd bynnag, y byddai'r masnachwyr a'r bwrdeis ar delerau da â'i gilydd. Golygai bod yn aelod o urdd y masnachwyr gryn dipyn o gost, oherwydd y mynych wledda a'r rhwysg a gedwid ganddynt, ac nid pawb a allai fforddio ymuno â hwy. Cyfarfyddent, fel rheol, yn y bore, a mynych fyddai'r ciniawa fin hwyr. Hwynthwy a drefnai'r modd yr oedd masnach i'w chario ymlaen, a phwy oedd i gael masnachu, ac nid rhyfedd, felly, iddynt ennyn dicter y rhai nad oeddynt yn aelodau.
Yn sgil undeb y masnachwyr cododd urdd arall, sef urdd y crefftwyr, ond ni wyddys pa un ai datblygiad naturiol ai twf gwrthwynebol ydoedd. Ymddengys fod y crefftwyr ar y dechrau yn aelodau yn urdd y masnachwyr, ond fel y cynyddai costau'r urdd honno, teimlent fod parhau yn aelodau yn ormod o dreth arnynt. Dywed rhai, fodd bynnag, mai datblygiad naturiol oedd undeb y crefftwyr. Y mae hanes diddorol iawn i'r undebau hyn, ond nid oes iddynt le mor amlwg yn y siartrau ag y sydd i urdd y masnachwyr. Ni ystyrid unrhyw siartr yn gyflawn onid oedd gyfeiriad at ryddid masnachol ynddi, a golygai hynny, fel rheol, sefydlu urdd masnachwyr yn y dref. Mewn llawer o'r siartrau hefyd dywedir bod y breintiau i fod yn gyfartal, ac i'w defnyddio yn yr un modd, à breintiau tref Henffordd ar y goror, lle llywodraethai Fitzosbern yn ôl braint a defod ei dreftad ym Mreteuil.
Dyma ffurf gyffredin y siartrau hyn. Byddai weithiau ychydig wahaniaeth yn ôl cyflwr a safle'r dref; er enghraifft, lle byddai castell, ni chaniateid i'r bwrdeis ddewis eu maer eu hunain—cwnstabl y castell a fyddai maer y dref bob amser.
Wrth gwrs, yr oedd perthynas agos a hanfodol rhwng y dref a'r castell. Estroniaid, fel y milwyr yn y castell, oedd y