Gwneir y rhaniadau hyn yn bennaf am eu bod yn hwylus : ar yr un pryd nid oes dim a bwysleisir yn amlach gan haneswyr na'r ffaith mai un yw hanes. Ymestyn digwyddiadau hanes fel cadwyn hir rhwng niwl y gorffennol a nos y dyfodol. Nid oes a ŵyr y dechrau nac a wêl y diwedd, ond ymdreigla'r gadwyn ymlaen ddolen wrth ddolen yn ddidor-a hyd y gwelwn ni yn ddiderfyn hefyd.
Priod waith yr hanesydd yw ceisio symud ychydig ar y niwl a ordôdd orffennol dyn, ond ni all yntau amgyffred holl rawd digwyddiadau hanes, ac erys y dyfodol cyn dywylled iddo ef ag ydyw i'r distadlaf ohonom. Er gweled ohonom y we a deall ychydig ar y cynllun wrth edrych yn ôl, nid oes ddewin a all ddywedyd pa batrwm newydd a ddichon fod ar y gweill yfory. Ond nid yw'r caddug mor drwchus uwchben pob rhan o feysydd hanes a'i gilydd: ceir ynddynt ambell lecyn golau a chryfha'r goleuni fel y nesheir at yr amser yr ydym ni ein hunain yn byw ynddo. Er hynny, cydnebydd haneswyr nad oes gyfnod anos ei elfennu na'r cyfnod y bo'r hanesydd ei hun yn byw ynddo, a chyfyd yr anhawster, meddant, nid o ddiffyg goleuni, ond o gael gormod ohono. Cerir yr hanesydd ymlaen ar lifeiriant digwyddiadau ei ddydd, ac o ganlyniad erys hanes y digwyddiadau hynny heb ei sgrifennu hyd nes elo ysbaid o amser heibio fel y caffer golwg arnynt megis oddi draw. Yr ydym oll megis dail ym merw'r tonnau, ac am hynny ni allwn iawn synied am rym a chyfeiriad y lli.
Y mae brawddeg Saesneg a ddywed y gesyd pellter hud dros brydferthwch bro. Boed hynny fel y bo, mantais yn ddiamau i'r hanesydd yw bod pellter rhyngddo â maes ei astudiaeth. Wrth edrych ar ddigwyddiadau hanes ysbaid o amser oddi wrthynt, cenfydd fod yn perthyn i rai ohonynt unoliaeth na pherthyn i'r lleill, a'u bod o ganlyniad yn haws eu deall a'u hamgyffred; a'r nodwedd hon sy'n cyfrif am yr arfer o rannu hanes yn gyfnodau.
Fel y dywedwyd eisoes, ni chyll y gwir hanesydd olwg ar y gwirionedd mai un yw hanes. Fe wêl yn eglur y llithra'r cyfnodau y naill i'r llall mor naturiol a didor ag y dilyna'r blynyddoedd ei gilydd yn nhreigliad amser, heb fwlch o gwbl yn unman. Ar y llaw arall fe genfydd o hir graffu ar ambell gyfnod y perthyn iddo nodweddion arbennig a'i gwahaniaetha oddi wrth gyfnodau eraill; fe wêl ei dwf o ddyddiau plentyn- dod a nwyfiant ieuenctid i'w lawn faint a'i nerth ym mlynydd- oedd canol oed, ac yna yn gwargrymu a phenwynnu ac yn y