Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth ystyried y trefniadau hyn, y mae'n bwysig cadw amgylchiadau'r cyfnod mewn cof. Yr oedd y bobl hyn mewn perygl beunyddiol am eu bywyd; ni allent ddibynnu ar eu cymdogion Cymreig i gynyrchu a gwerthu'r pethau yr oedd arnynt hwy angen amdanynt yn gyfnewid am y nwyddau a gynyrchent hwythau yn y dref, felly rhaid oedd cael tir âr a phorfa a thir gwyllt y tu allan i'r dref at eu gwasanaeth, yn union fel y'u ceid yn y cymwd ac ar y fanor.

Yn Siartr Dinbych, 1290, a sgrifennwyd mewn Ffrangeg Normanaidd, ceir digon o enghreifftiau o hyn. Yn ôl y siartr honno, rhoddodd Henry Lacy i ŵr o'r enw William o Pontefract ddwy fwrgais yn y dref o fewn y muriau, dau fuarth neu gadlas y tu allan i'r muriau a chymaint o dir âr yn Llewenni ag y medrai dau ych ei drin, ynghyda'r hawliau ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â thir o'r fath. Eto, i William y Pedler (?) un fwrgais yn y dref, un gadlas y tu allan i'r muriau a chymaint o dir år yn Llewenni ag y medrai un ych ei drin ynghyda'r breintiau ychwanegol.[1] Dengys hyn mai'r fwrgais a roddai hawl ar y tiroedd eraill, a bod i bob bwrgais, ar gyfartaledd, gymaint o dir âr ag y medrai'r bwrdais ei drin gydag un ych, sef, yn ôl cyfrif arferol y cyfnod, tua 15 acr, er y dywed Llyfr Du Tyddewi mai saith acr oedd y "bovate" yno.[2] Yr hyn a olygid wrth y breintiau ychwanegol, a oedd megis ynghlwm wrth y tir âr, oedd hawl ar gyfran o dir gwyllt a choedwig. Ceir cyfeiriad at y tir hwn ymhellach yn y siartr lle dywedir y câi'r sawl a biau'r hawl "housebote"—coed at bwrpas tŷ a thân—a haybote "—ceuwydd at godi gwrychoedd yng nghoed Llewenni, a ymestyn ar hyd ochr y ffordd rhwng Pont Ruffydd ac afon Elwy.[3] Yn yr un modd rhoddodd Llywelyn ap Gruffydd ap Gwenwynwyn i fwrdeis Llanfyllin hawl i borthi moch yn ei goedwigoedd ac i dorri tanwydd neu goed at adeiladu tŷ neu wneud dodrefn neu offer, oddieithr yn ffriddoedd Garthgine, Llanviglo a Myfod.[4] Rhoddid cosb drom ar y sawl a ddelid yn cymryd coed o fforestydd yr arglwyddi, fel y dengys helyntion tenantiaid Llannerch yn arglwyddiaeth dyffryn Clwyd. Mewn llys fforest a gynhaliwyd gan swyddog— ion Grey, Arglwydd Rhuthyn, yn 1295, dirwywyd Madoc ap Anian 6d. am dorri ceuwydd; Iorwerth Vaughan am dorri derwen, 6d.; Kenneth ap Thomas am gario coed crin o Nant-

  1. Williams: Records of Denbigh, Ch. XII.
  2. Black Book of St. Davids, 331.
  3. Williams: op. cit., 123.
  4. Montgomeryshire Collections, III, 92.