clwyd, 6d. ; Anian y Crydd (?) am dorri cangau o dderw i'r ychen, 1/- (i wneud iau neu dinbren neu, fe ddichon, yn fwyd iddynt). Yr oedd bwrdeis Abertawe yn fwy ffodus. Caent saith acr o dir âr bob un a chaniatâd i dorri coed at wneud llongau am dâl o swllt y llong. Caent hefyd hela yn y coedwigoedd, ond nid oeddynt i ddal yr hydd a'r carw a'r anifeiliaid eraill a restrid fel anifeiliaid helwriaeth. Caent anfon eu da i bori i'r fan a fynnent ar yr amod y gofalent am eu dwyn yn ôl y nos (Siartrau Abertawe, 1153—1184).
Y mae gennym ddigonedd o dystiolaeth am agwedd amaethyddol y bwrdeisdrefi hyn. Yr oedd 51 o 61 bwrdeis tref Gaernarfon yn trin tir, a gellid gweld eu hysguboriau o fewn muriau'r ddinas a'u beudai y tu allan iddynt.[1] Rhentid peth o'r tir am 2d. yr acr, a pheth am Id. Telid 2d. a 3d. yr acr yng Nghonwy, ond ni thelid mwy na cheiniog yng Nghricieth. Pysgota ac amaethu oedd prif ddiwydiannau bwrdeis Nefyn, a cheir manylion am eu heiddo. Wele eiddo Dafydd ap Madog: 50 ychen, 25/-; I ceffyl, 5/-; 8 o wartheg, 26/8; 10 o ddefaid, 5/- 4 crannog o fancorn, 8/-; 2 rwyd, 4/-; manion eraill, 10/-; cyfanswm, £4 3 8.[2] Dyma fanylion am eiddo Sais o'r enw John Collier a oedd yn fwrdais yn Harlech yn ystod gwrthryfel Glyn Dwr yr oedd ganddo 165 o wartheg, 40 o geffylau, 100 o ddefaid, 100 o eifr, a phethau eraill, y cwbl yn werth £40. Yn ystod yr un gwrthryfel collodd Caernarfon 1,000 o anifeiliaid[3]—gwartheg yn bennaf. Collodd Conwy dda ac ŷd gwerth yn agos i £1,500, a chollodd un bwrdais gynifer â 300 o ddefaid mawr. Dywedir bod un o ysguboriau Rhuthyn yn mesur 16 llath a'i bod yn llawn o geirch.[4] Dywed Leland, a ymwelodd â Chroesoswallt yn amser Harri VIII, iddo weled cynifer à saith ugain o ysguboriau o fewn muriau'r dref, lle cedwid ŷd a gwair y dineswyr.[5]
Y mae nifer y melinau y cyfeirir atynt yn dystiolaeth i'r un perwyl. Dwy felin oedd yng Nghaernarfon, un wrth y Porth Mawr a'r llall ar y Cadnant, ond yr oedd tair yng Nghonwy, dwy yng Nghyffin ac un yng nghymdogaeth Castell. Weithiau fe ymgymerai'r trefwyr à ffarmio'r felin, bryd arall byddai yn nwylo'r arglwydd neu rhentai rhywun hi ganddo. Yn nwylo'r bwrdeis yr oedd melinau Conwy a'r