Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bala,[1] ond ffermid melinau Caernarfon gan unigolion. Yn Ninbych cadwai'r arglwydd y felin a'r ffwrn yn ei law ei hun, a gorfyddai i'w denantiaid fyned â'u grawn i'w falu i'r naill a'u toes i'w grasu i'r llall.[2] Yr oedd tair melin yn Nhyddewi, a rhaid oedd i bob bwrdais gymryd tri thro yn y felin,[3] hynny yw, y mae'n debyg, fyned i'r melinau hyn yn ei dro er mwyn i'r arglwydd fedru codi toll arno a chael ei lafur.

Gwahaniaethai'r trefydd hefyd ym mesur eu rhyddid oddi wrth ofynion eu harglwyddi. Gorfyddid i denantiaid Dinbych ofalu am ddyn i ymladd os byddai galw am hynny.Williams op. cit., 122 a 123. Disgwylid i fwrdeis Penfro a Hwlffordd fyned gyda'u harglwydd i ryfel o fewn terfynau'r sir, a disgwylid hefyd i fwrdeis Hwlffordd fyned i'w hebrwng ar ei ffordd i'r senedd.[4] Yn Ninbych, talai etifedd rent blwyddyn fel gollyngdod (relief) pan etifeddai eiddo ei dad, a chodid ebediw gan arglwyddi Croesoswallt. Disgwylid i bob bwrdais yn Nhyddewi weithio diwrnod yn y cynhaeaf i'r Esgob neu dalu ½d. o iawn iddo, fel y gwelai ef yn dda ddewis. Fodd bynnag, nodweddid pob bwrch, pa mor ddistadl bynnag ydoedd, gan absenoldeb rhai o'r gofynion hynny oedd yn rhan hanfodol o fywyd y fanor. Pa faint o'r rhyddid hwn oedd yn anhepgor cyn y gellid ystyried lle arbennig yn fwrch sydd gwestiwn na all neb ei benderfynu. Er enghraifft, yr oedd yn Llewenni, yn arglwyddiaeth Dinbych, fwrch o'r enw Niwbwrch,[5] nad oedd ynddo ond 12 o ddaliadau, a adwaenid fel plasau (placea), pob un yn mesur tuag 20 rhwd. Ar wahân i'r enw, nid oes gennym ddim manylion am y breintiau a fwynheid. Nid oedd, y mae'n debyg, ond un enghraifft o fwrch a beidiodd â bod— fel y peidiodd y Bere tua 1295.[6]

Annelwig odiaeth ydoedd byrchau neu drefydd esgobaeth Tyddewi hefyd. Yr oedd Llanddewibrefi yn un ohonynt— yr un, fe ddichon, oedd â lleiaf o arwyddion tref yn perthyn iddi. Nid oedd yno ond pedwar bwrdais ar ddeg, a thalent swllt yr un am eu hawl i fwynhau rhyddid y dref (lib'tate ville). Fe'u gorfyddid, fodd bynnag, i roddi gwasanaeth i'r arglwydd a'i weision. Rhaid oedd iddynt ddarparu ymborth i'r stiward neu'r cwnstabl ar eu traul eu hunain, a'i gludo

  1. Lewis 199 Ffermid melin y Bala yn y 15eg ganrif.
  2. Williams op. cit, 123.
  3. Black Book of St. David's, XIV.
  4. Ballard Boro. Charters. Gweler dan Pembroke a Haverfordwest.
  5. Survey of Denbigh, 74.
  6. Lewis op. cit., 36.