Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

man yn llwyr ddiflannu. Mewn gair, gellir olrhain mewn ambell gyfnod ei fywyd organig—ei bersonoliaeth—ei hun: a chyhyd ag y cofier bod perthynas rhyngddo â bywyd y cyfnodau o'i ddeutu, purion peth yw ei astudio ar ei ben ei hun.

Yn gyffredin rhennir hanes Ewrop gan haneswyr yn dri chyfnod, sef cyfnod hen hanes, y cyfnod canol, a'r cyfnod diweddar. Dechreuir cyfnod hen hanes gyda thoriad gwawr gwareiddiad Groeg tua 800 c.c., a diweddir ef gyda goresgyniad yr ymerodraeth Rufeinig gan genhedloedd anwar Germani yn y bumed ganrif o.c. Na thybier oddi wrth hyn nad oedd i Roeg hanes cyn dechrau'r cyfnod hwn, oherwydd cafwyd llawer o oleuni yn ddiweddar ar fywyd cyntefig y wlad—y bywyd crwydr ac wedi hynny fywyd y pentref gwledig cyn codi o'r dinasoedd a ddaeth mor bwysig yn ei hanes. Dengys darganfyddiadau hynafiaethwyr nad twf undydd unnos oedd gwareiddiad Groeg, a bod ei ddyled yn fawr i wareiddiadau cynharach a ffynnai yng Ngroeg ei hun a hefyd mewn gwledydd cyfagos, megis ynys Creta a'r Aifft. Cytunir erbyn hyn mai o wareiddiad cynnar yr Aifft y tarddodd gwareiddiad Creta, a bod ei ôl yntau yn drwm ar wareiddiad Groeg—enghraifft a ddengys mor ddifwlch yw hanes dyn. Pe bai ein gwybodaeth yn gyflawnach, dichon y medrem olrhain rhawd gwareiddiad ar draws Asia o'i fore pell yn y dwyrain draw, ond ychydig a wyddom am ei gyfnodau cyntaf oll yn China, India, Babilon a'r Aifft. Heblaw hynny, y mae'r hyn a wyddom amdanynt yn peri i ni deimlo bod rhywbeth anghyffwrdd ynddynt, ac nad oes ond perthynas bell rhyngom ni â hwynt. Ond wrth syllu ar fywyd Groeg neu Rufain, gwelwn yn amlwg sylfeini gwareiddiad ein cyfnod ni, a phriodol am hynny yw ystyried oriau anterth y ddwy genedl honno fel cyfnod cyntaf gwareiddiad y gorllewin.

Gwlad o fynyddoedd uchel oedd cartref cyntaf y gwareiddiad hwn. Cul a dwfn yw ei dyffrynnoedd, ond ymleda rhai ohonynt yn wastadeddau ffrwythlon mewn ambell fan. Ar dair ochr i'r wlad-de, dwyrain, a gorllewin—y mae dyfroedd cynnes, tawel, y Môr Canoldir, a thua'r gogledd y mae ucheldir anhygyrch yn ei chlymu wrth gyfandir Ewrop. Rhyngddi ac Asia tua'r dwyrain a'r Aifft tua'r de y mae nifer mawr o fân ynysoedd, ac o ganlyniad gellid teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwledydd hynny yn hwylus a didrafferth. Naturiol felly oedd i'r wlad ddyfod yn fan cyfarfod y tri chyfandir a derbyn argraffiadau a syniadau o ddwyrain a de a'u trosglwyddo i