
X. Ffair a Marchnad.
Long before the conquest, however, a force had begun to play which was to give to the boroughs their most permanent characteristic. They were to be centres of trade.
The establishment of a market is not one of those indefinite phenomena which the historian of Law must make over to the historian of economic progress. It is a definite and legal act. The market is established by Law.—MAITLAND.
Nas dylit marchnadoedd breiniolion namyn yn y dinasdrevydd teilyngion.—Cyfreithiau Hywel.
MYN rhai awduron mai masnach a roddodd fôd i fywyd tref, ac nid hawdd gwadu'r gosodiad. Y mae'n wir bod a fynnai polisi'r llywodraeth gryn lawer â chychwyn y rhan fwyaf o drefi Cymru; ond o olrhain eu hanes, fe welir mai creu masnach leol oedd yr amcan, ar y dyb y buasai hynny, ymysg pethau eraill, yn foddion effeithiol i Seisnigeiddio'r wlad. Ond ni buasai'r trefydd hyn, mwy nag eraill, wedi ffynnu oni bai am fasnach; beth bynnag oedd achlysur eu creadigaeth,