Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

masnach oedd y gwaed a redai yn eu gwythiennau ac a wahaniaethai eu bywyd oddi wrth fywyd gwlad.

Sylfaen y dref, medd yr haneswyr hyn, yw'r heddwch hwnnw sydd bob amser yn angenrheidiol i fasnachwyr. Mewn cyfnod lled fore fe ymgymerth yr Eglwys â chyhoeddi heddwch i amcanion neilltuol—Heddwch Duw (Treuga Dei). Ar y Cyfandir, yn bennaf, y gwneid hyn. Golygai, fel rheol, i'r barwniaid ymgymryd â pheidio ag ymladd â'i gilydd dros y Sul neu yn ystod gwyliau arbennig yr Eglwys. Wele lw a gymerid gan nifer o farwniaid ar esgobaeth arbennig yn Ffrainc yn y flwyddyn 1023:

Yr wyf yn addo na chymeraf nac ŷch na buwch nac unrhyw anifail arall; nid ymosodaf ar y tyddynnwr na'i wraig nac ychwaith ar fasnachwyr. Ni ddygaf eu harian na'u cadw yn gaeth nes talont iawn i mi. Ni charwn iddynt golli eu nwyddau oherwydd anghydfod a ddichon fod rhyngof i â'u harglwydd hwy. Ni churaf hwynt er mwyn dwyn eu moddion cynhaliaeth oddiarnynt. Addawaf beidio â gwneuthur y pethau hyn o Ddygwyl Dewi hyd Wyl yr Holl Saint. Ni ddygaf na cheffyl na chaseg na llwdn oddiar y borfa. Ni ddifâf na llosgi tai. Ni ddiffeithiaf winllannoedd dan esgus rhyfel. Ni ddinistriaf felinau ac ni ddygaf beilliaid.[1]

Ymledodd yr arfer hon, meddir, i bob marchnad leol, ac nid yw'r groes a welir mewn llawer tref farchnad ond arwydd a godwyd gan yr Eglwys yn y dyddiau cythryblus gynt i ddangos bod heddwch yn ffynnu yno i amcanion masnachol. O dipyn i beth, meddir, daeth heddwch y farchnad yn heddwch y dref. Daeth y dref i gyd, yn y man, i gyfranogi yn feunyddiol o'r heddwch a ddiogelid iddi ar y cyntaf yn ystod tymor marchnad yn unig.[2]

Nid oedd masnachwyr yr oesau canol namyn pedleriaid yn crwydro yn garafannau gyda'i gilydd o fan i fan. Dyma'r modd y dygid nwyddau ar draws diffeithwch Arabia a gwastadeddau dwyrain Ewrop nes yn y man gyrraedd y gorllewin. Ond byddai ganddynt leoedd penodol i aros ynddynt dros y gaeaf, ac yn y lleoedd cadarn hynny, a ddewisid ar gyfrif y

  1. Thompson: Economic and Social History of the Middle Ages, 168.
  2. "Know all men both present and future that I William Fitz William FitzAlan have received unto my hand and protection my burgesses of Blancminster (Croesoswallt) namely those who received messuages from my bailiff for the improvement of my market and I will maintain them against all and as far as I rightfully can. Wherefore I will that they hold their messuages in peace."—O Siarty Croesoswallt y Siartr Gwta (Ballard). Am gopi cyflawn o'r Siartr Ladin gwêl Byegones, Ion. 1, 1879. 194 fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.3