fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.[1]
Tyfodd rhai trefydd, yng Nghymru er enghraifft, o wreiddiau milwrol a pholiticaidd, eraill ar y cyfandir ac yn Lloegr (megis St. Albans a Bury St. Edmunds) o wreiddiau eglwysig, ac eraill drachefn o wreiddiau masnachol, ond yn y cwbl fel ei gilydd bu i'r ffair a'r farchnad ran bwysig yn hanes eu datblygiad. Perthyn i fwrdeisdref, fel rheol, yr oedd marchnad, ond ceid ffair ymron bob pentref yng Nghymru. Fe'i cynhelid, fel rheol, ar ddygwyl y Mabsant. Yn ôl George Owen, hanesydd Sir Benfro, yr oedd cynifer â 233 o ffeiriau yng Nghymru yn 1601, a chyfrif y Canon Fisher fod tua 200 o ddyddiau gŵyl ar enwau cynifer â hynny o Seintiau cyntefig.[2]
Ar ryw olwg, bychan yw'r gwahaniaeth rhwng ffair a marchnad. Cynhelid y naill yn wythnosol neu'n fisol, a'r llall bob chwarter neu bob blwyddyn. Y mae'n wir bod cylch y farchnad yn llawer mwy cyfyng na chylch y ffair. Ni pharhâi'r farchnad, fel rheol, ond am ddiwrnod yn unig, ond parhâi'r ffair yn yr oesau canol am o leiaf dridiau ac weithiau am gyfnod o fis neu bum wythnos.
Yn ôl rhai awduron, fodd bynnag, yr oedd tarddiad y ddwy yn wahanol iawn i'w gilydd. Braint a estynnid gan y brenin neu'r arglwydd oedd y caniatâd i gynnal marchnad mewn lle arbennig, ond hawl gyntefig wedi ei gysegru gan arfer ac amser oedd y ffair. Sylfaen y naill oedd breinlen yr arglwydd, a sylfaen y llall oedd arfer gwlad. Ond y mae'n hawdd gorbwyso'r gwahaniaeth hwn yn eu tarddiad. Tyfu a wnaeth marchnad Penfro; yr oedd eisoes yn hen sefydliad cyn i'r Siartr ei hawdurdodi.[3] Yn y siartr, ar y llaw arall, y crewyd ffeiriau'r Bala; cynhelid y ffeiriau cyn hynny yn Llanfor.[4]
Disgynnai'r ffeiriau hyn bron yn ddieithriad ar ŵyliau crefyddol. Cynhelid yr hen wyliau hyn i goffáu esgyniad y sant lleol—y mabsant fel y gelwid ef—i ogoniant. Parhai'r ŵyl am dridiau—y noswyl, y dygwyl a thrannoeth yr ŵyl. Ar noswyl y sant, pan gofid ei golli, cynhelid gwasanaeth crefyddol braidd yn drist ei natur, ond erbyn y bore yr oedd tristwch wedi ffoi, a chynhelid gwasanaeth i ddathlu esgyniad y sant i baradwys, ac ar ei ddiwedd ymroddai'r lluoedd i ddfyrrwch. Gwnai pawb ymdrech neilltuol i fyned i'r Ŵyl