Dyna rai o'r nwyddau a oedd yn angenrheidiau bywyd yn yr oesau canol. At hyn, yr oedd sidan a phorffor a thlysau i'r sawl a fedrai fforddio eu cael. Y rhain oedd nwyddau cyntaf masnach, a sefydlwyd ffair a marchnad er mwyn eu cael, yn gyfnewid am yr ychydig weddill o ffrwyth y tir neu gynhyrchion y pentref neu'r dref.
Wrth gwrs, nid oedd gan Gymru ffeiriau cyn bwysiced â ffeiriau Lloegr, megis ffair Stourbridge (a berthynai i Fynachlog Barnwell ac a gynhelid y tu allan i furiau Caergrawnt), ffair St. Bartholomew yn Llundain neu ffair Winchester (a oedd ym meddiant yr Esgob). Llai fyth oedd eu pwysigrwydd o'u cymharu â ffeiriau'r Cyfandir, megis ffair Troyes yn Champagne yng nghanolbarth Ffrainc; ond nid oes sail i dybied, er bod y ffeiriau'n llai, fod y trefniadau yn gwahaniaethu llawer.
Rhoddid caniatâd i gynnal ffair a marchnad ar ddyddiau penodedig trwy siartr neilltuol o rodd arglwydd, esgob, tŷ crefyddol neu frenin. Cafodd y Bala[1] ganiatâd gan Edward II yn 1324 i gynnal marchnad bob dydd Sul a ffair ddwy waith yn y flwyddyn, y naill ar ŵyl Pawl a Phedr (diwedd Ionawr) a'r llall ar ŵyl y Grog (Invencionis Santae Crucis) ddechrau Mai. Hawliai lleoedd eraill, megis Llanfor gerllaw'r Bala, gynnal ffair ar bwys hen arfer. Diddymwyd ffeiriau Llanfor, fodd bynnag, pan roddwyd caniatâd i gynnal ffeiriau yn y Bala.
Cyn y rhoddid caniatâd i gael ffair neu farchnad wythnosol, rhaid oedd gofalu na wneid niwed i ffair neu farchnad oedd eisoes yn bod. Ni chai Llewelyn ap Gruffydd ganiatâd i godi castell a sefydlu masnach yn Abermule oherwydd agosrwydd y lle i Drefaldwyn, lle yr oedd eisoes farchnad. Yn y flwyddyn 1282, symudwyd marchnad a ffeiriau'r Trallwng i Drefnant, [2] rhag iddynt ddrygu marchnad y brenin yn Nhrefaldwyn; ond ymhen tair blynedd cynhaliwyd hwy yn y Trallwng fel cynt.
Dywed yr hen gyfreithiwr, Bracton, na ddylid rhoi caniatâd i neb i godi marchnad o fewn 6 milltir, o leiaf, i farchnad sydd eisoes yn bod. Ystyriai ef bod ugain milltir yn ddigon o daith diwrnod, ac y dylid rhannu'r milltiroedd hynny yn dair rhan, sef 6 milltir o daith i'r farchnad, 6 yn ôl drachefn, a 6 yn crwydro ôl a blaen yn y farchnad. Yr oedd yn bwysig