Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychwelyd cyn nos, oherwydd y lladron a lochesai ar hyd ochrau'r ffyrdd ac anawsterau teithio wedi nos.

Ymddengys mai cyffelyb oedd y terfynau yng Nghymru, er cymaint awydd y brenin i droi'r dŵr i'w felin ei hun. Yn ôl deddf a basiwyd yn ail flwyddyn teyrnasiad Rhisiart II, nid oedd neb i fasnachu o fewn wyth milltir i dref Fangor, nac o fewn pum milltir i dref Gaerfyrddin. Dywed Dr. Lewis y cynhelid 22 o ffeiriau ym mwrdeisdrefi Gwynedd, a naw o farchnadoedd.[1]

Trefnwyd i farchnadoedd y gogledd (a sefydlwyd gan y brenin, yn benaf er mwyn sicrhau nwyddau a moddion cynhal— iaeth i'w fwrdeis) fod yn ganolfannau masnachol cylchoedd arbennig o'r wlad. Tref Gaernarfon oedd tref farchnad Is ac Uwch Gwyrfai; a gwasanaethai Conwy yn yr un modd i Arllechwedd, Creuddyn, a Nant Conwy; a'r Bala i bum plwyf Penllyn. Ceisiwyd gorfodi un aelod o bob tŷ yn y cylch i fynychu'r farchnad wythnosol a gynhelid yn y lleoedd hyn, ond buan iawn y deallwyd bod hyn yn amhosibl, a pheidiwyd à gorfod neb ond y sawl a feddai rywbeth i'w werthu. Ceir yr un orfodaeth ynglŷn â ffeiriau Abergwili, a berthynai i Esgob Tyddewi; gorfyddid i'w denantiaid ef yn Llanegwad, Llangathen, Llanarthen a Llanlluan, ddyfod i ffair Abergwili fel rhan o'u gwasanaeth iddo.[2]

Cynhelid y ffeiriau mewn mannau cyfleus yng nghymdogaeth y dref. Ar y Maes y cynhelid ffair Gaernarfon, ac y mae hyn yn cydfyned â'r hyn a wyddom am ffair Stourbridge yn Lloegr, lle ceir manylion ynglŷn â thorri a chlirio'r ŷd cyn agor y ffair. Dywedir y byddai Cymry dyffryn Conwy yn arfer cyfarfod ar y mynydd i fargeinio cyn y gorfuwyd arnynt i fyned i'r dref. Cynhelid ffair Caerdydd o gwmpas y Groes, a ffeiriau Rhaeadr Gwy dan hen dderwen.

Parhâi rhai o'r ffeiriau am dridiau, fel ffair y Bala, eraill am saith niwrnod, fel ffair Dyddewi, eraill am dair wythnos, fel ffair Winchester, ac eraill drachefn am bum wythnos, fel ffair Stourbridge, a mawr fyddai'r paratoi ar eu cyfer. Agorid ffair Stourbridge ar y seithfed o Fedi, ac yr oedd raid clirio'r cynhaeaf oddi ar y maes cyn y pedwerydd ar hugain o Awst. Amgylchynid y lle â gwrthglawdd; ac yr oedd adeiladu amddiffynfeydd i'r ffeiriau a gynhelid yn Llanddewibrefi yn rhan o wasanaeth tenantiaid Tyddewi a oedd yn byw yn y gymdogaeth honno. Golygai hyn denantiaid Llanddewibrefi,

  1. Lewis: op. cit., 169.
  2. Black Book of St. David's, 245.