Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fasnachwyr o bell yn dyfod i gynnig nwyddau wrth eu drysau. Yn Winchester a lleoedd eraill, yr oedd pob math ar fasnach o fewn muriau'r dref i beidio yn ystod y ffair, a rhaid oedd i bawb a ddymunai fasnachu gymryd ei stondin gyda'r estron yn y ffair. Nid oedd y safle, fel y gellid disgwyl, yn un ddy- munol iawn i'r masnachwr dieithr, ac am hynny rhaid oedd iddo wrth sicrwydd y cai lonyddwch a chwarae teg cyn y mentrai ei fywyd a'i eiddo a dyfod i'r fath le.

Nid oedd gwaith y swyddogion ychwaith yn ddymunol dan amgylchiadau o'r fath. Rhaid oedd gofalu na ymyrrai'r estron o gwbl â threfniadau masnach leol. Trefnid nad oedd y masnachwr dieithr i gael gwerthu oddi mewn i furiau'r dref nac i adwerthu o gwbl. Trefnid hefyd fod y ffair i ddechrau ar awr benodedig ac i derfynu yr un modd, a chosbid pawb a ddechreuai yn rhy fuan neu a barhâi i werthu yn rhy hir. Yr oedd raid gosod y nwyddau allan yng ngolau dydd, ac ni cheid masnachu wedi nos, gan y byddai'n anodd penderfynu ansawdd y nwydd.

Yr oedd budreddi rhai o'r masnachwyr yn achosi cryn drafferth hefyd, yn enwedig y cigyddion a'r gwerthwyr pysgod. Yn 1330 gwnaed rheol yng Nghynffig fod pob cigydd, boed ddieithr neu fwrdais, i werthu cig iach yn unig, ac i ddangos hynny gorfyddid arnynt ddyfod å chroen yr anifail a laddesid gyda hwy i'r farchnad. Dengys cyfrifon gogledd Cymru yn amser Edward II dâl o 3/1 am groen eidion a buwch a fuasai farw o'r haint-nid oedd y cig yn werth dim-ac yn ddiweddarach ceir cyfeiriad at gig anner a bustach ieuanc a thri eidion nad oedd yn werth dim oherwydd eu marw o'r clwy.[1]

Gwnaed llawer ymdrech trwy ddeddfwriaeth i sicrhau heddwch a hwylustod i farchnata i'r masnachwyr tramor. Torrid i lawr y coedydd lle byddai lladron yn llercian hyd ochrau'r ffyrdd. Gwneid trefniadau i hwyluso casglu dyledion, a rhoddai ambell arglwydd neu frenin nodded neilltuol i'r masnachwyr yn ystod eu taith a'u harosiad yma, fel y gwnaeth Hubert de Burgh yn ei siartr i Drefaldwyn yn 1229.[2] Yr oedd gwir angen am hyn, yn enwedig ar ororau Cymru, fel y dengys y nodyn canlynol o lawysgrif sydd ym meddiant tref yr Amwythig[3]: "Dydd Llun, Rhagfyr 5, 1575: Buasai

  1. Cymmrodor, XXV, 46.
  2. Caiff pob masnachwr ddyfod i'r dref a'i nwyddau yn ddiogel gan dalu y dirwyon arferol, a bydd pob un ohonynt o dan nawdd yr Iarll wrth fynd a dod a thra yn aros yn y dref."-13 Henry III, 2.
  3. Cathrall's: History of Oswestry, 52.