Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd deddf y masnachwyr, fel y gweinyddid hi gynt, yn wahanol i'r deddfau lleol a weinyddid yn y fwrdeisdref. Yr oedd yn enghraifft fore o ddeddf wedi ei chyfaddasu i gyfarfod ag arferion gwahanol genhedloedd, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy wrth dorri i lawr y gwahanfur rhwng gwlad a gwlad a hyd yn oed rhwng tref a thref o fewn terfynau yr un wlad.[1]

Cynhelid yr hen lysoedd hyn bron ym mhob tref yng Nghymru ar ddydd ffair a marchnad. Ym mhorth y dollfa, y mae'n debyg, y cynhelid hwy. Byddai ambell hen Gymro yn troseddu yn aml trwy farchnata y tu allan i ffiniau'r dref neu trwy fyned i ddyled neu weithiau trwy ddyfod i'r farchnad yn arfog.

Yr oedd ansawdd a mesur bara a diod yn un o gwestiynau llosg yr oesau canol, ac er mwyn cosbi'r sawl a droseddai yn y mater hwn, rhaid oedd i bob lle y cynhelid ffair a marchnad ynddo ddarparu rhigod a thrwmbel i'r pwrpas. Y mae ar gael lawer o ddarluniau chwerthinllyd o'r trueiniaid hyn yn myned trwy eu pennyd. Ceir cyfeiriad at yr anhepgorion dinesig hyn, er enghraifft, yng nghyfrifon llys Rhuthyn. Er gwaethaf pob anhawster, fodd bynnag, fe gerid masnach helaeth ymlaen yng nghyfnod yr oesau canol, a synnir dyn gan amrywiaeth y nwyddau. Nid oedd ball ar y gwin a ddeuai i mewn i'r porthladdoedd hynny a oedd ym meddiant y goron, ond a âi peth ohono ymhellach na'r fwrdeisdref Normanaidd sydd gwestiwn. Y mae'n debyg mai seler y castell a gai'r rhan fwyaf ohono, er nad oedd beirdd, fel Lewis Glyn Cothi, yn ddieithr i rinweddau gwahanol winllannoedd y Cyfandir. Daeth cymaint â 80 tun o win Gwasgwyn i borthladd Aberdaugleddau yn ystod y flwyddyn 1392—3. Yn yr un flwyddyn ceir hanes am lwyth llong a gynhwysai 19 tun o win fel a ganlyn 4 tun o win coch Gwasgwyn, I tun o win coch Nantes, 4 tun o win gwyn Rochelle a 10 tun o win gwyn o'r Ysbaen.[2]

Wrth gwrs, yr oedd rhyw gymaint o allforio hefyd, ac ymysg y nwyddau hyn ceir gwlân, gwlanen a chrwyn.

Nid oedd gwlân defaid Cymru mor werthfawr â gwlân defaid y goror—defaid Llanllienni er enghraifft, a gyfrifid gyda'r gorau yn yr holl wlad. Y mae'n amlwg yr ystyrrid peth o

  1. Gweler Pollock and Maitland: History of English Law, a Select Pleas concerning the Law Merchant, Gross, Selden Society.
  2. Rhydd Dr. E. A. Lewis, yn ei erthygl fanwl yn y Cymmrodor, XXIV, fanylion am y fasnach dramor Gymreig yn ystod yr Oesau Canol.