wlân Cymru yn rhy sâl i'w werthu. Dywedir i Feili Manor Iscoed yn Arglwyddiaeth Brycheiniog, yn y flwyddyn 1341—2, gael 60 o ddefaid yr Arglwyddiaeth am fod eu gwlân yn rhy fras. Er hynny, dengys ystadegau'r Staple yng Nghaerfyrddin, lle allforid gwlân y Deheudir, fod cryn werthu ar wlân Cymru.
Yn ddiweddarach daeth Cymru yn enwog am ei gwlanen a'i brethyn. Rywbryd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth y Pandy i fod, a dechreuodd y diwydiant ymledu o'r cartref. Erbyn diwedd yr oesau canol, yr oedd nifer mawr o frethynwyr ym marchnadoedd y goror—yr Amwythig, Henffordd a Llwydlo—yn prynu gwlanen Gymru i'w gorffen yn y trefydd hyn. Yn amser Elisabeth yr oedd cynifer â 600 o welleifwyr brethyn yn yr Amwythig yn unig, a bu hir helynt rhyngddynt å thref Groesoswallt ar gyfrif y farchnad wlanen a gynhelid yno bob wythnos.[1]
Dros y clawdd, wrth gwrs, y byddai'r rhan fwyaf o'r nwyddau yn mynd ac yn dyfod. Yn eu mysg, yn ddios, yr oedd gyrroedd o wartheg a defaid, fel y dengys y doll a godid ar bont Montford ar y ffordd i'r Amwythig, neu doll Henffordd a godid ar y nwyddau a groesai'r hen bont ar Wy. Yr oedd Cymru eisoes yn enwog am ei gwartheg duon,[2]
A'i flew clyd o flac y lir
Ail yw i fath a'i liw fo
I fwyarliw neu forlo.
Ac meddai arall wrth sôn am ei gnwd o flew:
A'i flew'n glyd fal yn glog.
Ceir cyfrif am 700 o ychen a anfonwyd o dde a gogledd Cymru i Glerc Cegin ei Fawrhydi yn Windsor mor fore a 1312. Yn ystod teyrnasiad Harri V, anfonwyd 100 o gatel, gwerth £67 13 4, i Lundain; lladdwyd a halltwyd 93 yn rhagor, gwerth £60, ac anfonwyd y cig i Calais.[3]
Byddai galw mawr hefyd am dderw Cymru. Pan adeiladwyd mynachlog Abingdon, cedwid chwech o wagenni, a deuddeg o ychen wrth bob un, i gludo derw o Bowys at wneud trawstiau'r adeilad. Cymerai pob siwrne o Abingdon i'r Amwythig ac yn ôl o chwech i saith wythnos o amser.
- ↑ Gweler y bennod ar "Ddiwydiant a Masnach."
- ↑ Ceir cywydd doniol gan Guto'r Glyn yn disgrifio'i helynt wrth fynd ag ŵyn degwm person Corwen i Loegr.—Llen Cymru, T. Gwynn Jones, III, 37:
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol C. J. A. Skeel ar Cattle Trade between England and Wales, 15th—19th centuries."—Royal Historical Society Transactions, IV Series, 9.