Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfyd rhan o'r anhawster o'r ffaith y defnyddir y term diwydiant mewn mwy nag un ystyr. Fe'i defnyddir weithiau mewn ystyr eang, a gynnwys bob math ar ymgais i ennill bywoliaeth. Sonnir am y diwydiant amaethyddol a'r diwyd— iant bugeiliol fel ffurfiau diwydiannol. Bryd arall fe'i defn— yddir mewn ystyr gyfyng, yn golygu diwydiant peiriannol a'i gyferbynnu ag amaethyddiaeth sydd, hyd yma beth bynnag, heb ei darostwng i'r un mesur dan iau'r peiriant. Pan sonnir am ddiwydiant diweddar dyma'r ystyr a roddir iddo yn gyffredin.

Yn y cyfnod boreaf oll nid oedd dim diwydiant o'r math a gerir ymlaen ar wahân i fywyd beunyddiol y teulu, ac o ganlyniad nid oedd angen am fasnach na marchnad. Felly yr oedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod bugeiliol crwydr ac yng nghyfnod bore ei hamaethyddiaeth.

Gan Adam Smith y ceir yr eglurhad mwyaf boddhaol[1], ar y cyfan, ar ddatblygiad diwydiant. Dibynnai, medd ef, ar ddatblygiad dosraniad llafur; ar y cyntaf cais pawb gyflenwi ei anghenion ei hun a throi ei law at bob gorchwyl ond heb ddyfod yn feistr ar unrhyw gelfyddyd arbennig, ond yn y man tyf galw am nwydd arbennig a theimlai'r gweithiwr ei bod yn werth iddo feistroli crefft cynhyrchu'r nwydd hwnnw a rhoi ei holl amser i'r gwaith.

Yn y cyfnod patriarchaidd yng Nghymru rhennid y bobl yn genhedloedd." Nid oedd y genedl" namyn teulu mawr lluosog, ac o fewn y teulu lluosog hwnnw ceid digon o adnoddau i gario ymlaen amryw ddiwydiannau. Magu anifeiliaid a thrin y tir oedd eu prif foddion cynhaliaeth, ond rhaid oedd cyfaddasu'r nwyddau a godid ar faes ac ar ffridd cyn y gellid eu defnyddio. Prif nodwedd y bywyd hwn ydoedd cyfaddasu'r nwydd gartref yn hytrach na'i anfon oddi cartref i'w drin gan arall. Merched â melin law a falai'r blawd, a hwy hefyd a'i pobai a'i grasu, fel y gwneir yn y wlad hyd heddiw. Bu'r felin law fyw yn hir; yn Siartr Caerdydd rhoir caniatâd i'r bwrdeis ddefnyddio'r felin law yn hytrach na mynd a'r ŷd i felin yr arglwydd. Merched hefyd a olchai'r gwlân a'i gardio a'i weu a'i nyddu, er y byddai'r dynion yn fynych yn cynorthwyo gyda'r gorchwylion trymaf. Trinid y crwyn gartref a gwneid esgidiau a dillad gan aelodau'r teulu. Nid yw'r arfer o wneud offer tŷ a thyddyn wedi cwbl farw allan yng Nghymru eto, ac erys y plât a'r picyn pren, y llwy a'r

  1. Adam Smith: Wealth of Nations, Book I.