Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath o fewn eu muriau. Ond ni ddylid esbonio'r term masnachwr mewn ystyr gyfyng, fel un yn byw ar brynu a gwerthu yn unig. Y mae'n wir bod masnachwyr o'r fath yn aelodau o'r urdd, ond yr oedd yn perthyn iddi hefyd lu o grefftwyr. Ymhlith aelodau urdd y masnachwyr yn yr Amwythig yn amser Edward I yr oedd y pobydd, y barbwr, y barcer, y saer, y clerigwr, y cogydd, y telynor, yr ustus, y meddyg a'r offeiriad, yn ogystal a'r dilledydd, y sidanydd a'r masnachwr.[1] Cyffelyb oedd safle pethau yn nhrefydd Gogledd Cymru. Ymysg dineswyr Caernarfon, a oedd yn rhinwedd hynny yn aelodau o urdd y masnachwyr, ceir y gof, y saer, y teiliwr, y crydd, y barcer, y pobydd, y cigydd a'r pysgotwr.[2] Cynhwysai urdd y masnachwyr, felly, grefftwyr yn ogystal a masnachwyr, a mawr y dyfalu pa fodd y cododd urdd y crefftwyr mewn gwrthwynebiad i'r urdd honno.[3]

Myn rhai mai cynnyrch anghydfod oedd eu codi ac edrychant arnynt fel arwydd o drais a gormes y masnachwyr. Fel y datblygai masnach chwyddai cyfoeth y masnachwyr, a gwnaent bopeth a fedrent i atal y crefftwyr rhag ymuno â'u hurdd. Codent dâl afresymol ar y sawl a ddymunai ymuno, a daeth y gwisgoedd gwych a'r mynych wleddoedd yn gymaint o fwrn nes cadw'r crefftwyr allan.

Tybia rhai i'r urddau newydd gychwyn ymysg y gweithwyr gwlân a ddaeth i'r wlad hon—o Fflandrys yn bennaf—yn amser Edward III. Ffurfiasant undebau, meddir, er mwyn diogelu cyfrinach y gelfyddyd y daethant hwy yma i'w dysgu i'r Saeson.

Myn eraill, drachefn, mai datblygiad naturiol oedd yr undebau hyn. Fel yr ymledai diwydiant a masnach yr oedd yn amhosibl i urdd y masnachwyr daflu golwg dros yr holl ddiwydiannau. Aeth y diwydiannau ar wahân a threfnodd urdd y crefftwyr fywyd pob un ohonynt ar ei ben ei hun.

Yn anffodus, ychydig a wyddom am y naill urdd na'r llall yn ei pherthynas â Chymru. Prin odiaeth yw'r cyfeiriadau at urdd y crefftwyr, ac er bod cyfeiriad at urdd y masnachwyr ym mron bob Siartr a feddwn, nid yw hynny yn taflu dim goleuni ar y rhan a fu iddynt ym mywyd y dref.

Safle Cymru a'i hanes yn ystod yr oesau canol sy'n cyfrif am y prinder hwn. Bu'r prif ddatblygiad diwydiannol a

  1. "Hibbert: English Gilds, Chapter 2, Note 2.
  2. Lewis op. cit., 186.
  3. Ar ddatblygiad urdd y crefftwyr gweler W. J. Ashley: Economic History. Cunningham Growth of English Industry and Commerce. Lipson: Economic History (Mediaeval).