Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penfro ac Aberteifi yn byw gynt yn nhrefydd neu fwrdeisdrefi y siroedd hynny, a'u bod yn cynhyrchu math arbennig o frethyn a adwaenid fel ffrîs neu gotwm. Erbyn y flwyddyn honno, fodd bynnag, yr oeddynt wedi myned i fyw y tu allan i'r trefydd ac oherwydd hynny fe'u cyfrifid yn dramorwyr. Cwynir hefyd eu bod wedi troi yn amaethwyr ac yn magu defaid. Er hynny, cynhyrchent frethyn fel cynt, ond bod ei ansawdd a'i fesur yn wahanol. Ymysg y troseddwyr enwir y dilledydd, y gwehydd a'r pannwr—ffaith a ddengys ddatblygiad dulliau gweithio yn y diwydiant yn nhrefydd y de.

Y flwyddyn cynt yr oeddis wedi pasio deddf bod rhaid plygu'r brethyn a wneid yng Ngogledd Cymru (ac a adwaenid fel Whites, Russets, Kennets) yn y fath fodd fel y gallai'r prynwr yn hawdd weld ei faint yn ogystal a'i ansawdd. Cyn hynny, rholid y gornen frethyn mor dynn, meddid, fel na ellid yn hawdd wybod ei hyd na'i hansawdd. Ceir yr un gŵyn yn union gan wehyddion Norwich ynglŷn â'r worsted a wneid yn y pentrefydd cyfagos.[1]

Pasiwyd y deddfau hyn—a cheir eu cyffelyb yn Lloegr—er mwyn budd urdd y crefftwyr yn y trefydd. O achos eu gormes hwy, yr oedd gwehyddion a chrefftwyr eraill yn mudo o'r dref i'r wlad, lle caent ddilyn eu crefft fel y mynnent. Dygid y nwyddau a gynhyrchid felly i'r dref i'w werthu, a thrwy hynny gwneid niwed i ddiwydiannau'r dref.

Yn ystod yr oesau canol câi'r llywodraeth fwy o elw oddi wrth y fasnach wlân nag oddi wrth ddim arall. Eistedda'r Arglwydd Ganghellor ar sach wlân hyd heddiw—arwydd mai'r fasnach honno oedd sylfaen gadarn y wladwriaeth ar un adeg. Allforid ef, fel rheol, i'r Iseldiroedd, lle gwneid brethyn ohono gan y Ffleminiaid. Llwyddodd Edward I, fodd bynnag, i sefydlu'r diwydiant yn y wlad hon trwy ddwyn nifer o wehyddion drosodd, ac erbyn diwedd yr oesau canol yr oeddis yn allforio brethyn lle gynt yr allforid gwlân.

Er mwyn rheoli'r drafnidiaeth hon, trefnid i grynhoi'r holl wlân neu frethyn mewn mannau arbennig a adwaenid fel

y stwffwl (staple). Calais oedd y stwffwl am rai blynyddoedd, yna Bruges, prif gartref y diwydiant. Weithiau rhyw dref yn Lloegr a fyddai'r stwffwl. Ond pa le bynnag y byddai'r stwffwl, trefnid nifer o borthladdoedd yn y wlad hon i allforio'r nwydd ohonynt, ac adwaenid y rhain fel porthladdoedd y stwffwl. Perthynai i'r trefydd hyn Faer arbennig, a weinyddai

  1. Ashley: Economic History, I, Part II, 205.