Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diddymwyd y rhwystrau hyn yn y siartr a roddodd Harri Tudur i'w denantiaid yng Nghymru yn 1507. Tyb rhai awduron na bu i'r cyfreithiau cosbi hyn gymaint effaith ag y mynnir weithiau, ond dengys deiseb tre'r Bala i Harri VII beth feddyliai'r bwrdeiswyr yng Nghymru o'r rhyddid newydd yr oedd Harri wedi meiddio ei estyn i'w gydwladwyr. Cwynai'r deisebwyr na allent o hynny allan dalu'r fferm arferol, am eu bod yn dibynnu i fesur ar fedru codi toll ar y rhai a ddeuai i'r dref i fasnachu o'r plwyfi cylchynol. Fel y cofir, y Bala oedd tref farchnad pum plwyf Penllyn, ac yno y gorfyddid ar y Cymry fasnachu.[1]

Hen Neuadd Farchnad, Amwythig.
  1. Lewis: The Medieval Boroughs of Snowdonia, 299.