Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Theodore o Darsus yn 690 (efô fel y tybid a ad-drefnodd fywyd eglwysig y Saeson ac a sefydlodd y gyfundrefn blwyf yn Lloegr[1]) y mae'n debyg mai meudwyaidd a mynachaidd oedd sylfaen eu bywyd crefyddol hwythau hefyd.

Fel y gwyddys, perthynai i'r hen eglwys Geltaidd draddodiad, ffurf lywodraeth a ffurf wasanaeth a'i gwahaniaethai yn gyfangwbl oddi wrth Rufain. Awgryma'r traddodiadau a'r ffurf wasanaeth darddiad Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig, a dengys y ffurf lywodraeth gyfaddasder i gyfarfod anghenion ysbrydol pobl a oedd eto yn byw yn ôl arferion patriarchaidd y llwyth. Brithir gwledydd Celtaidd y gorllewin ag olion y cyfnod bore hwn yn hanes yr Eglwys.

Y meudwy, yn sicr, oedd cynnyrch mwyaf nodweddiadol y bywyd hwnnw. Crefyddwr yn chwennych neilltuedd yn anad dim oedd y meudwy, ac am hynny dewisai fyw mewn lleoedd anghysbell ac anghyfannedd. O ganlyniad ceir ei gell yn fynych ar ynys unig fel Enlli, mewn cymwd anghysbell fel Pennant Melangell, neu ar graig ar fin y traeth fel Llantysilio ar Fenai, neu gapel traddodiadol Padrig ar draeth Penfro.[2] Weithiau hwyrach nad oes ond yr enw yn aros fel "Lle yr hen Eglwys," bryd arall erys ychydig o olion o'r tŷ crefyddol, ond nid oes odid blwyf yng Nghymru nad oes draddodiad ynddo am adeilad o'r fath. Y mae Môn yn frith ohonynt, megis capel Beuno, a adwaenid fel eglwys y Beili, ac a safai lle mae ysgol Aberffraw heddiw; capel Dindryfal neu gapel Llanfair yn Rhew Dryvol, neu eglwys Fair yn yr un lle. Dywed Leland ei fod tua dwy filltir oddi wrth y môr.[3] Rhydd H. H. Hughes a H. L. North fanylion am nifer o gapeli ar lethrau Arllechwedd rhwng Llanllechid ac Abergwyngregin, fel Eglwys Cil Twllan, yr hen eglwys neu gapel Llechid yng nghymdogaeth Llanllechid, Llanylchi ar lan ogleddol yr afon, a llan a chapel Bodvan yn agos i ffermdy o'r enw Hafod Celyn.[4] Ceir eglwys Wen yn Llanuwchllyn, eglwys Mihangel yn Llanfihangel y Pennant[5], eglwys Elen ym mlaen dyffryn Ceiriog, eglwys Pant Dŵr wrth darddle yr Eirth mewn cilfach yn y Berwyn, a gellid enwi lluoedd o rai cyffelyb. Gydag ychydig eithriadau saif yr hen eglwysi hyn mewn lleoedd sydd erbyn hyn yn hynod ddiarffordd, ond y mae'n

  1. Gwel nodyn 8, tudalen 71.
  2. Gweler Archæologia Cambrensis, Mehefin, 1925.
  3. Anglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1920, 33—435
  4. The Old Churches of Snowdonia, Harold Hughes a H. L. North, 145 et seq.
  5. Report of Ancient Monuments Commission (Merioneth), 353, 450.