Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlwg bod poblogaeth yn eu hymyl unwaith neu eu bod ar rai o briffyrdd y cynoesau. Daeth yr adeiladau hyn, nad oeddynt ar y dechrau namyn celloedd meudwyaid, ar gyfrif cymeriad y gwŷr a drigai ynddynt i gael eu hystyried yn lleoedd cysegredig, a thyfodd yr arfer o fyned yno i addoli nes i rai ohonynt ddatblygu yn eglwysi plwyf. Ond fel rheol, fel yr ymsefydlai'r boblogaeth yn is i lawr y dyffryn, rhaid oedd symud yr eglwys i fan mwy cyfleus a chanolog. Peidiodd eraill â bod, yn gyfangwbl, a rhoddwyd degwm y dref y digwyddent fod ynddi at gynnal eglwys mewn plwyf cyfagos, ond nid bob amser y plwyf agosaf. Datblygodd eraill drachefn, fel Enlli a Seiriol, yn fynachlogydd enwog. Ynys fechan heb fod nepell o dir oedd hoff gartref y meudwy Celtaidd.

Nodwedd arall ar yr eglwys Geltaidd oedd y berthynas agos rhwng ei threfnyddiaeth a threfnyddiaeth y "genedl" a wasanaethid ganddi. Dywedir i Faelgwn Gwynedd roddi ei gaer er mwyn sefydlu eglwys Caergybi oddi mewn iddi,[1] a lled awgrymir mai hyn oedd cychwyn y mynwentydd crynion sydd mor amlwg mewn gwledydd fel Cymru. Hen gaerau, lleoedd cadarn y llwyth, oeddynt gynt, medd rhai; myn eraill mai hen gylchoedd cerrig ydynt, lle y byddid yn arfer a chladdu'r meirw ymhell cyn dyfod Cristnogaeth i'r wlad. Ond beth bynnag am eu tarddiad, dengys Palmer yn ei erthygl ddiddorol ar hen "eglwysi cyfran" gogledd Cymru[2] fel y parhaodd canonaeth Caergybi ym meddiant disgynyddion Llywarch ap Brân a Hwfa ap Cynddelw, gwŷr oedd yn uchelwyr amlwg yn y gymdogaeth honno unwaith. Nid yn unig hawlient lais ym mhenodiad y canonwyr ar gyfrif eu perthynas a noddwyr bore'r eglwys yng Nghaergybi, ond delid canonaeth yn fynych gan aelodau o'r teulu.

Tebyg, o bosibl, mewn oesoedd diweddarach ydoedd twf hawl rhydd—ddeiliaid i sedd yn eglwys y plwyf. Edrychid ar yr hawl hwn fel rhywbeth y gellid ei drosglwyddo i arall, a cheir cyfeiriad mynych at yr hawl yn ewyllysiau'r cyfnod. Yn hen eglwys Llangar, gerllaw Corwen, lle bu Edward Samwel gynt yn berson ac yn gloddesta yn hen dafarn y Stamp gerllaw, ceir nifer o eisteddleoedd yn perthyn i urddasolion y fro, a phaisarfau'r teulu yn addurno drws y cwir. Ceir yr un peth yn hen eglwys enwog Clynnog yn sir Gaernarfon, ac mewn İleoedd eraill. Byddai yr un hawl yn perthyn i fwrdeiswyr

  1. Lloyd: History of Wales. I, 130.
  2. A. N. Palmer: Portionary Churches of Medieval North Wales, PP. 3-9.