tref. Rhydd Mr. T. P. Ellis adroddiad diddorol am helynt a fu yn eglwys Feifod rhwng Madam Meryell Williams a Mrs. Mitton, cynrychiolwyr dau o deuluoedd amlwg y Plwyf, parthed eu hawl ar sedd arbennig.[1] Ond datblygiad diweddar ydoedd seddau yn eglwys y plwyf. Sefyll a wnai cynulleidfa yn yr oesau canol, fel rheol. Ond y mae'n amlwg yr edrychid ar eglwys y plwyf a'i breintiau crefyddol fel pethau i'w mwynhau gan bersonau neilltuol ar bwys eu perthynas â llwyth arbennig, yn union fel yr hawlient dir am yr un rheswm. Ond y ffurf fwyaf cyffredin oedd y clas,[2] fel y gelwid ef. Arferai nifer o glaswyr neu ganonwyr gydfyw yn yr un lle a gwasanaethu cylch eang o wlad oddi amgylch. Yn araf bach dechreuodd rhai o'r canonwyr hyn ymsefydlu yma ac acw ar hyd y wlad a wasanaethid ganddynt fel cyfangorff gynt. Rhannwyd y wlad yn blwyfi a rhoddwyd degwm plwyf, neu gyfran o blwyf, yn fywoliaeth i bob un. Telid y degwm cyn hynny i Reithor y clas neu'r coleg clerigol yn y fam eglwys, ond wedi sefydlu person mewn plwyf deuai cyfran o'r degwm—y degwm lleiaf, sef y degwm ar wyau, llaeth, ymenyn a ffrwythau yn eiddo iddo ef, ond telid y degwm mawr—ar ŷd, gwair a gwlân—i'r clas o hyd, neu weithiau i'r esgob.
Fel hyn y tybir y daeth Caergybi yn fam eglwys Bodedern, Llanddrygarn a Bodwrog; Meifod ym Mhowys yn fam eglwys Llanfaircaereinion, Alberbury a Chegidfa; a Llanrhaeadr ym Mochnant yn fam eglwys Llangedwyn, Llangadwaladr a Llanarmon Mynydd Mawr. Perthynai i'r claswyr gryn lawer o dir yn aml, oblegid ar y tir y dibynnai pawb, yn llên ac yn lleyg, y pryd hwnnw. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg aethai'r tir a oedd gynt ym meddiant claswyr Meifod yn eiddo i un o arglwyddi Normanaidd Powys. Ymddengys oddi wrth y cyfrif a rydd ef o'i dir fod ganddynt unwaith gymaint a 200 o aceri o dir âr, a nifer o denantiaid rhydd, gydag ychydig o daeogion, yn ei drin. Talai'r taeogion 10/yn y flwyddyn fel cyfwerth y gwaith a gyflawnent gynt ar y tir yn yr Hydref, a 6/8 yn gyfnewid am yr hen arfer o groesawu un o'r "gweision bychain" o ŵyl Fihangel i'r Nadolig. Dyma un o'r cylchoedd y sonia Hywel Dda amdanynt, ac yr