Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

epigram. Dichon mai'r unig fath ar ganu nas perffeithiodd oedd y watwareg—a ddaeth yn ddiweddarach yn boblogaidd ymysg y Rhufeiniaid. Nid oedd y rhamant a'r nofel yn ffurfiau llenyddol arferedig ganddo, ond cyrhaeddodd y ddrama odidowgrwydd yng ngweithiau Aeschylus, Euripides a Sophocles na welwyd fyth wedyn ei debyg heblaw yng ngweithiau Shakespeare. Groegwr, drachefn, sef Herodotus, oedd tad y gelfyddyd o sgrifennu hanes. Edrydd ef hanes ei wlad a'i pherthynas â'r gwledydd o'i hamgylch mewn modd hollol ddiragfarn ac amhleidiol fel pe na bai ddafn o waed Groegwr yn ei wythiennau. Yn yr un modd rhydd Thucidydes bortread byw, beirniadol, o weriniaeth mewn brwydr farwol â'i gelynion a'r modd yr ymdrawodd democratiaeth yn nydd y prawf. Er bod ei faes yn llai ac yntau ei hun yn gadfridog ym myddin Athen, nid yw ei ymdriniaeth ronyn llai manwl a diragfarn nag eiddo Herodotus. Gellir enwi lliaws yn rhagor o ganghennau diwylliant a dysg a'u holrhain yn ôl i feddwl grymus ac ymchwilgar Groeg. Ni chyfododd rheitheg i arucheledd mwy urddasol nag a gyrhaeddodd yn areithiau Demosthenes a Phericles; gosodwyd sylfeini mesuroniaeth gan Euclid ac Eudemas, disgybl Aristotl, a seryddiaeth gan Ptolemy; Archimedes oedd tad gwyddor pwerau anian (Physics); a gwnaeth Aristotl a Galen fwy ym maes gwyddor bywydeg na neb ar eu holau hyd amser Cuvier a Linnæus. Linnæus a Cuvier oedd fy arwyr gynt," meddai Charles Darwin, " ond nid ydynt ond megis hogiau ysgol o'u cymharu â'r hen Aristotl." Nid gormod yw dywedyd, felly, i'r Groegwr gynhyrchu llenyddiaeth na welwyd eto ei pherffeithiach; ac ar gyfrif ei ffurfiau caboledig a'i chynnwys cyfoethog, erys hon yn ysbrydiaeth ac yn symbyliad i feddwl yr ugeinfed ganrif fel y symbylodd feddwl y bymthegfed ganrif pan ail-ddarganfuwyd trysorau'r hen fyd gyda gwawr y Dadeni.

Troer drachefn at gynnyrch ei ddwylo. Yr oedd y Groegwr yn feistr ar gelfyddyd y pensaer a'r cerflunydd, ac ni pheidiodd y byd eto a rhyfeddu wrth edrych ar ei adeiladau a'i gerf- ddelwau. Er gwaethaf pob dirmyg a wnaed ar y Fenws o Melos yn nhreigliad amser, erys hi o hyd yn oruchaf yn serch y byd; berffeithied yw gwaith y cerflunydd nes hudo dyn i feddwl wrth edrych arni bod gwaed yn curo yn ei gwythiennau marmor ac i ddisgwyl clywed llais yn torri dros ei gwefus gain. Felly hefyd y Parthenon, er ei fod bellach yn furddyn, ni fedd y byd ddim hafal iddo; syrth y pali dros fronnau'r