Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddid yn ymolchi ac ymgroesi wrth ddyfod i mewn i'r gwasanaeth, ond ymddengys na fabwysiadwyd y cynllun yma yn gyffredinol.[1]

Hefyd y mae'n hysbys erbyn hyn mai ychydig o lwyddiant a gafodd Awstin Fynach[2] y tu allan i Gaint, lle ceir eglwys neu ddwy ar gynllun Rhufeinig. Efengyleiddiwyd y Saeson, nid gan y mynaich Rhufeinig a ddaeth gyda Awstin yn 597. ond gan genhadon Celtaidd a ddaeth o'r Alban i ogledd Lloegr. Gwaith dynion fel Columba, Colman, Aidan a Chuthbert ydoedd gwŷr oedd wedi eu trwytho yn nhraddodiadau a dysg yr eglwys Geltaidd. Ymhen ugain mlynedd wedi dyfod Aidan o Iona, meddai un hen awdur, yr oedd Lloegr yn Gristnogol.[3] Cadarnheir hyn gan astudiaeth o gynllun eglwysi Plwyf Lloegr, lle gwelir yn amlwg ôl dylanwad y cynllun Celtaidd.

Ond beth oedd hwnnw? Y ffurf symlaf, y mae'n debyg, ydoedd adeilad cyfonglog,[4] ond weithiau byddai un pen iddo yn hanner crwn, fel y Basilica Rhufeinig, oherwydd ei adeiladu o gylch cell meudwy, a fyddai weithiau yn grwn ar lun cwch gwenyn. Pan ddechreuwyd defnyddio'r lle fel eglwys cadwyd y gell fel y rhan fwyaf cysegredig ohoni ac ychwanegwyd ati. Dyma gynllun sydd yn lled gyffredin yng ngorllewin Iwerddon—un o'r rhai perffeithiaf yw eglwys fechan Dingle. Tybia Gilbert Scott fod yr eglwys Geltaidd ar ei symlaf yn dilyn cynllun yr oruwchystafell, lle byddai'r disgyblion yn arfer a chyd—gyfarfod yng Nghaersalem.[5] Cyfonglog felly yw'r priod ddull Celtaidd, gydag ambell dalcen crwn.[6] Y datblygiad nesaf oedd ychwanegu ystafell arall yn nhalcen yr un oedd eisoes yn bod a rhoi drws rhyngddynt. Tebygai hyn i gynllun yr hen deml Iddewig gyda'i gwahanlen. Yn yr adran newydd y cedwid yr allor, a hon oedd cangell yr eglwys. Yn ddiweddarach fe rennid corff yr eglwys yn ddwy a rhoi y côr yn un pen rhwng y gangell a chorff yr eglwys.

  1. Awgryma'r Athro Baldwin Brown mai'r tŷ Rhufeinig oedd sylfaen cynllun yr eglwys Gristnogol, ac nid yr adeiladau cyhoeddus fel y Basilica, The Arts in Early England, 186. Ond ni choleddir y dyb hon yn gyffredin.
  2. Ar aflwyddiant Awstin gweler Balfour Brown: op. cit., a Henry Howorth : The Golden Age of the Early Saxon Church.
  3. Ar waith Aidan ac eraill gweler Bede: Ecclesiastical History, V—XVII.
  4. Y mae cynifer a 26 o eglwysi un ystafell ym Môn yn unig. Gweler Ecclesiology of Anglesey, Tyrrell Green, Cymmrodor, XL.
  5. Samuel Gardner: The English Parish Church, 6.
  6. Talcen crwn sydd i eglwys Llanfair Pwll Gwyngyll, ac ymddengys fod y talcen yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ac nid yn ddatblygiad diweddar. Bu talcen crwn hefyd i hen Eglwys Gadeiriol Bangor unwaith.