Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac eraill. Tybir mai'r esboniad ar y math hwn o eglwys yw'r addoli Mair y cyfeiriwyd ato. Ar y cyntaf, codid capel bychan wrth ochr y gangell, lle gosodid allor i addoli Mair; yna, fel y deuai'r addoliad newydd yn fwy poblogaidd, helaethid y capel nes ei wneud yn gyfartal o ran hyd ag adran arall yr eglwys, a cheid felly ddau gorff cyfochrog, cyfartal. Gellir profi mai hyn yw'r esboniad ar hen eglwys Llansilin, sydd wedi ei hadeiladu ar y cynllun hwn. Yn y flwyddyn 1534 bu cyfreithio rhwng dau fab Llywelyn ap Ieuan Vychan o Foeliwrch ynglŷn â'u hawl ar sedd yn yr eglwys. Hawliai'r naill, yn ôl yr hen arfer Gymreig o roddi hawl cyfartal i bawb o'r plant, a'r llall ar sail cyfraith a basiwyd gan Harri VIII, a gyfyngai'r hawl i'r mab hynaf yn ôl arfer Lloegr. Penderfynodd Llys yr Uchel Gomisiwn fod Morus, y mab hynaf, i gael sedd yng nghangell Fair, a Tomos, y mab ieuengaf, i gael sedd yng nghangell Sant Silin.[1]

Nid yw Cymru. fodd bynnag, i'w chymharu â gwledydd eraill, fel Lloegr neu Ffrainc, yn natblygiad eglwysi. Y mae amryw resymau am hyn. Ar y gwastadedd, fel y sylwodd Ruskin, y ceir campwaith y pensaer bob amser. At hynny, nid yw'r garreg a geir yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd, yn addas iawn. Ond mwy na hyn, yn ystod y canrifoedd hynny pan oedd y dull Gothig yn cyrraedd ei berffeithrwydd, bu helynt a rhyfel yn aflonyddu ar fywyd Cymru. O ganlyniad, er y ceir yma ac acw enghreifftiau rhagorol o ddatblygiad celfyddyd adeiladu, tlawd, ar y cyfan, yw eglwysi Cymru yn y cyfeiriad hwn. Ond ceir rhai eithriadau y dylid cyfeirio atynt; rhydd eglwys Penmon well syniad, fe ddichon, am yr hyn ydoedd eglwys Normanaidd nag odid eglwys yn y wlad, ag eithrio'r eglwys yn nhwr Llundain; gellir gweld y dylanwad Normanaidd ym mhriordy Aberhonddu ac yn eglwysi'r Tywyn a Meifod a lleoedd eraill; dengys drws gorllewinol hen abaty Ystrad Fflur gyfuniad o'r dylanwad oedd ar basio a'r dylanwad Celtaidd ; a cheir ym mhorth deheuol Llanaber, yn ymyl Abermaw, enghraifft ragorol o'r ris nesaf yn natblygiad y Perthyn eglwysi mwyaf mawreddog Cymru, fodd bynnag, i gyfnod y Tuduriaid, pan beidiodd yr ymrafaelio rhwng y ddwywlad. I'r cyfnod hwn y perthyn nifer o eglwysi'r goror, fel eglwysi Wrecsam, Gresford a'r Wyddgrug,

  1. Archæologia Cambrensis (1894), 114.