ac eglwysi Clynnog, Bangor a Biwmares yn y gogledd, a Chaerfyrddin (Sant Pedr) a Dinbych y Pysgod yn y de.[1] Yr oedd bywyd crefyddol yr oesau canol dipyn ehangach nag yw bywyd crefyddol heddiw. Hwyrach nad oedd ei ddyfnder gymaint a'i led, ond yr oedd yn rhan organig o fywyd, ac nid yn rhywbeth y gellid ei fabwysiadu, neu beidio, yn ôl mympwy bersonol. Nid oedd odid agwedd ar fywyd nad oedd à wnelai crefydd rywbeth â hi.
Byddai gwasanaeth yn eglwys y plwyf bob dydd. Fel rheol, fe'i cynhelid yn blygeiniol iawn-ar doriad y wawr neu weithiau yn foreach na hynny. Ni fedrai pawb fyned i'r gwasanaeth, ac am hynny cenid cloch yn ffenestr agored yr eglwys, neu yn y clochdy os byddai un, er mwyn i'r plwyfolion gael gwybod bod gwasanaeth o'r fath yn cael ei gynnal. Hwn-y Plygain-oedd prif wasanaeth y dydd; darllenid y gosper, fel rheol, am ddau neu dri o'r gloch y prynhawn, ond y mae'n amheus a wneid hyn ond yn yr eglwysi mwyaf.[2] Disgwylid i bawb o'r plwyfolion fod yn bresennol yng ngwasanaeth yr offeren ar y Sul. Cyn cynnal y gwasanaeth hwnnw, taenellid dwfr swyn ar yr allor-rhan o'r gwaith a ddisgynnai i ran y clochydd, fel y galwem ni ef, ydoedd hyn. Ond yr oedd y clochydd y pryd hwnnw mewn urddau eglwysig -nid oedd hynny yn golygu llawer bob amser-ac adwaenid ef yn rhinwedd ei swydd fel clerigwr y dwfr swyn. Rhoddid peth o'r dwfr mewn cawg yn y porth, ac yno yr ymgroesai'r plwyfolion cyn myned i'r gwasanaeth. Gwelir y lle y bu'r cawg mewn llawer eglwys hyd heddiw. Ar derfyn y gwasanaeth, wedi offrymu o'r aberth, eid ar bererindod o allor i allor, os byddai mwy nag un, a'u taenellu i gyd. Yna eid allan yn orymdaith i'r fynwent a'r groes ar y blaen. Taenellid peth o'r dwfr ar y beddau yn y fynwent a gweddïo dros eneidiau'r meirw.
Rai blynyddau yn ôl, daethpwyd o hyd i ddarn o hen groes yr orymdaith a ddefnyddid yn eglwys Cegidfa yn Sir
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol yr Athro Tyrrell Green, The Church Architecture of Wales, Cymmrodorion Transactions, 1916-17. Hefyd ei Ecclesiology of Pembrokeshire, ibid., 1921-22. Gweler hefyd ei lyfr diddorol ar Parish Church Architecture (S.P.C.K.), a'i Ecclesiology of Anglesey, Cymmrodor, XL. Darllener hefyd waith H. H. Hughes ar eglwysi Môn yn Y Cymmrodor a'i anerchiad o'r gadair yng nghyfarfod blynyddol y Cambrian Archaelogical Association ym Mhorthaethwy ym mis Awst, 1930.
- ↑ Gweler Gasquet Parish Life in Medieval England, a Cutts: Scenes and Characters of the Middle Ages, a'r Parish Priests in the Middle Ages.