Drefaldwyn. Y mae tua phum modfedd o uchder a thair a hanner o led. Terfyna'r breichiau a'r pen ar lun fleur-de-lis. Yr oedd croesau o'r fath yn gyffredin, a gelwid hwy, oherwydd hyn, yn groesau "fleury." Ar ganol y groes ceir darlun o'r Gwaredwr croeshoeliedig. Y mae'n debyg mai i'r bedwaredd ganrif ar ddeg y mae'r groes hon yn perthyn.
Ychydig o bwys a roddid ar bregethu gan eglwys yr oesau canol, er nad oedd pregeth yn beth mor anghyffredin ac y tybir yn fynych, a chofier mai yn Gymraeg y pregethid. Dyma, yn wir, yr unig ran o'r gwasanaeth a ddeellid gan y cyffredin, gan mai Lladin oedd y rhan fwyaf o'r gwasanaeth. Lled gartrefol yw'r homiliau sydd wedi llwyddo i oroesi'r cyfnod. Llawer pwysicach yn syniad y cyfnod ydoedd y sacramentau. Yr oedd pedwar o'r sacramentau hyn y rhoddid cryn lawer o bwys arnynt, sef yr offeren, a offrymid o leiaf unwaith bob Sul ac weithiau yn amlach na hynny bedydd, a weinyddid ddydd geni'r plentyn y mae hen gofrestrau plwyf, lle ceir hwy, yn llawn o enghreifftiau o hyn; bedyddid pawb cyn cyrraedd tair blwydd oed, ac os esgeulusai'r rhieni wneud hyn, fe'u cosbid trwy eu rhoi i fyw ar fara a dŵr: yr oedd penyd neu gyffes yn orfodol hefyd o leiaf unwaith yn y flwyddyn; gwneid y gyffes wrth y fynedfa i'r gangell, a cheir aml gyfeiriad at ystôl y gyffes yn y rhan hon o'r adeilad: a'r olaf o'r pedair sacrament oedd yr eneiniad olaf i baratoi enaid a chorff y sawl a fyddai ar ymadael â'r byd hwn. Rhoddid pwys mawr ar y sacrament hon; yn wir, mor bwysig ydoedd fel na chaniateid i offeiriad gysgu allan o'i blwyf, rhag ofn y byddai galw am ei wasanaeth yn nyfnder nos.[1]
Dichon y dengys y gwyliau yn well na dim arall y modd yr âi'r eglwys i mewn i fywyd cyffredin y bobl. Ystyr y gair gŵyl ydyw gwylio, o'r Lladin vigilia, neu gadw noswyl. Parhai'r ŵyl fel rheol am dridiau. Yr ŵylnos, neu'r mywyl fel y gelwir hi weithiau, a dygwyl a thrannoeth yr ŵyl. Gan fod i bob plwyf ei nawdd sant ei hun, a bod y calendr yn dryfrith o ŵyliau saint eraill, nid oedd ball ar foddion difyrrwch yn yr oesau canol. Y bwysicaf o'r gwyliau plwyf oedd yr ŵyl mab sant. Dechreuai, fel rheol, ar y Sul cyn dygwyl y sant, a pharhâi mewn rhai lleoedd am wythnos gyfan. Gwneid paratoadau eithriadol ar gyfer yr ŵyl hon, a gwnai pawb ymdrech neilltuol i ymweled â'i blwyf genedigol yn ystod dyddiau'r ŵyl.
- ↑ Gasquet op. cit.