Arfer y plwyfolion oedd ymgynull i'r Eglwys neu'r Llan i wylio, i ymprydio a gweddio ac i losci canhwyllau ger bron yr Escyrn. Wedi treulio ohonynt Noswyl y mabsanct fel y crybwyllwyd yn gwylio ac yn ymprydio, fe fydde iddynt a'r y diwrnod trannoeth, yr hwn a elwŷd Dydd—gwyl y mab sant, ymroddi yn llwyr i Lawenydd: Canys hwy dreulient yr holl ddydd mewn gwleddau, chwaryddiaethau, cerddoriaeth a phob math o ddifyrrwch. . . Nid ydys yn awr yn gwneuthur cymmaint cyfrif Nos ŵyl y mabsanct ac oeddid yn yr amseroedd hynny: eithr am y Diwrnod fe a'i cedwir byth yn dra—chyffelyb i'r modd y cedwid gynt canys yr ydys nid yn unig yn ymgynnull i wledda, campio a difyrru, eithr hefyd mewn rhai mannau o Gymru yn rhoddi rhyw fath o offrymmau er mwyn Duw a Mair a'r mabsanct gan ei goffa wrth ei Enw.[1]
Cedwid yr ŵyl hon gyda rhwysg eithriadol yn hen blwyf y Doctor Morgan—Llanrhaiadr ym Mochnant—hyd ddechrau'r ganrif ddiwethaf, pryd y dechreuodd edwino. Ar y Sul cyn y pedwerydd ar hugain o Orffennaf, âi'r gwŷr a'r plant yn fore at ffermdai'r plwyf i gardota llaeth at wneud danteithion ar gyfer yr ŵyl. Dychwelent erbyn tua un ar ddeg o'r gloch, ac yna hyd hanner dydd byddid yn paratoi'r bwyd. Deuai'r plwyfolion i'r Llan erbyn tua thri o'r gloch, a dechreuai'r wledd yn holl dai y pentref oddeutu pedwar o'r gloch. Am wyth o'r gloch, byddai'r dawnsfeydd a'r ymyfed yn dechrau yn y tafarnau, ond byddai pob tŷ yn dafarn yn ystod yr ŵyl, a pharheid i ddawnsio drwy'r nos. Ddydd Llun, byddai chwarae pêl ar dalcen yr eglwys, taflu'r maen camp (a welir wrth ambell eglwys hyd heddiw), ymladd ceiliogod, etc. Ddydd Mawrth, eid trwy'r seremoni o bennu maer am y flwyddyn. Hwn fyddai ffŵl y ffair; coronid ef mewn rhwysg, a thynnid ef mewn gwagen drwy'r pentref; yna esgynnai i ben Carreg y Big a herio'r bobl. Yn ystod yr wythnos hon y cynhelid y ffair flynyddol hefyd—fe'i cynhelir ar yr un dyddiad o hyd. Weithiau parhâi'r rhialtwch am wythnos arall, ond aeth yr ŵyl yn gymaint o fwrn ar yr ardal, fel y penderfynwyd symud Carreg y Big o'i lle. Dywedir mai David Maurice, o Lan Cynllaith, a'i symudodd ac a'i taflodd i lyn dwfn yn afon Tanad gerllaw ei dŷ.[2] Ond nid oedd yr hen garreg wedi gorffen â'i hystrywiau, oblegid yn fuan wedyn fe foddwyd Maurice yn y llyn hwnnw.