duwiesau a'i haddurna cyn ysgafned ag y disgyn niwl sidanaidd dros y twyni fore o haf. Nid yw'r rhain ond enghreifftiau ymhlith lliaws o greadigaethau cyffelyb, ac erys eto lawer ohonynt i ysbrydoli artistiaid yr oesau. Er ehangu o wareiddiad ei derfynau, ni chododd erioed yn uwch nag a wnaeth pan oedd Groeg yn ei hanterth. Nodweddid
y gwareiddiad hwn hefyd gan berffeithrwydd amlochrog eithriadol iawn. Yno yr ymgodymwyd gyntaf â'r anawsterau hynny sydd o hyd yn poeni ysbryd a meddwl dyn, ac yno hefyd y cafwyd gyntaf fesur o lwyddiant ar eu datrys. Yno felly y dylid chwilio am sylfeini bywyd amlochrog y gorllewin ac am wreiddiau y pethau godidog sy'n etifeddiaeth inni.

Ychydig tua'r gorllewin o wlad Groeg ymestyn penrhyn arall o'r Alpau brigwynion yn y gogledd i ganol y Môr Canol- dir, i gyfeiriad cyfandir Affrig tua'r de, ac ar hyd ei ganol yn asgwrn cefn iddo y mae rhes o fynyddoedd uchel—yr Appeninau.