Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/277

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydymffurfiai'r llwyth hefyd, a chyda'r tir a roddid i'r fynachlog âi holl freintiau'r llwyth. Y tywysog, fel pennaeth, a fyddai pen y fynachlog hefyd; ys dywed Montalembert : Pan ymunai tywysog â mynachlog, efô, yn naturiol, a fyddai'r abad, a pharhai yn y bywyd crefyddol yn bennaeth llwyth fel cynt."[1].

Yr oedd y mynachlogydd hyn nid yn unig yn dai crefyddol, ond hefyd yn gartref dysg a chelfyddyd, a phrin y medrir maddau i'r Saeson, hyd yn oed wedi cynifer o ganrifoedd, am yr anfadwaith a wnaed pan losgwyd Bangor is y coed, yn enwedig pan gofir am drysorau fel Llyfr Kells ac eraill sydd ym meddiant y Gwyddyl o hyd. Dywed Wiliam o Malmesbury, a sgrifennodd ei Hanes" tua 1140, na bu erioed y fath garnedd o eglwysi a thai crefyddol ag a oedd i'w gweled ym Mangor hyd yn oed yn ei ddyddiau ef.[2] Nid oes yno heddiw ond y ddôl las anwastad ei hwyneb gerllaw afon Ddyfrdwy lefn.

Y tebyg yw, fodd bynnag, mai adeiladu coed gyda tho gwellt neu frwyn oedd y celloedd y trigai'r mynaich ynddynt. Yr oedd yr eglwys hefyd o'r un defnydd. Ceir gan Bede ddisgrifiad o eglwys o'r fath yn cael ei hadeiladu â choed gan Garmon gogyfer a'r pasg adeg brwydr Maes Garmon, a ymladdwyd yn agos i'r Wyddgrug fel y tybir.[3] Sonnir am Badrig yn adeiladu eglwys dyweirch mewn lle o'r enw Foirrgea, am nad oedd coed i'w cael yn y fan honno. Yr oedd i bob mynach ei gell ei hun, y mae'n debyg. Codid mur neu wrych o gylch y lle. Dyma'r llan; ac o fewn y cylch hwn ceid nid yn unig yr eglwys a'r celloedd, ond hefyd westy ac adeiladau eraill oedd yn angenrheidiol at fywyd y lle, megis melin ac odyn, gweithdy saer a gefail gof.

Dywedir i Gadog yn Llangarfan adeiladu eglwys goed a hefyd ystafell fwyta a chysgu. Mewn lle arall cododd gladdfa, ac ar ben boncyn arall adeiladodd dŷ iddo'i hun fel Abad. Adwaenid y lle hwnnw fel Castell Cadog, a thystia'r olion eithriadol sydd ym mhentref tawel Llanilltyd heddiw am

  1. Dyma syniad sylfaenol llyfr y diweddar Willis Bund ar y Celtic Church, ond y mae'n amheus a ddylid rhoi'r lle amlwg i'r llwyth yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd ag a roir ganddo ef
  2. William of Malmesbury, History, 47.
    "That their number was incredible to these times is apparent from so many half destroyed walls of churches in the neighbouring Monastery, so many winding porticoes, such masses of ruins as can scarcely be seen elsewhere." Ond amheua Palmer yr hyn ddywed William. (Gwêl Y Cymmrodor, X, p. 16.)
  3. Bede: Ecclesiastical History, I, 20.