Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua hanner y ffordd rhwng gogledd a de, a'i hwyneb tua machlud haul a'i chefn ar wlad Groeg, y mae Rhufain, a fu am lawer canrif yn brifddinas y byd. Saif tua chanol y gwledydd sy'n taro ar y Môr Canoldir, gwledydd yr hinsawdd gynnes a'r haf hir, cartref yr oraens a'r gwinwydd a'r olewydd. Ni bu'n hir cyn darostwng y gwledydd hyn dan ei hawdurdod: ac o fewn y cylch hwn a than ddylanwad Rhufain y lledaenwyd y gwareiddiad a welodd ddisgleiried boreddydd yn nhrefydd bychain Groeg.

Wrth symud o Roeg i Rufain, nid oedd y gwareiddiad yn mudo ymhell nac ychwaith yn newid llawer ar ei anian. Anadlai yr un awyrgylch o hyd, yn dymhorol ac yn ysbrydol: yn wir, yr oedd y Groegiaid eisoes wedi trawsfeddiannu cymaint o ddeheubarth Itali nes i'r rhan honno gael ei henwi yn Roeg Fawr, a Groeg a siaredir mewn rhai rhanbarthau yno hyd heddiw. O ran gwaed, nid oedd berthynas agos rhwng y Rhufeiniwr a'r Groegwr—yr oedd agosach perthynas rhwng y Rhufeiniwr a'r Celt—ond trwy rym amgylchiadau ni bu'n hir cyn yfed yn helaeth o ddiwylliant Groeg a mabwysiadu llawer o'i harferion. Er enghraifft, derbyniodd elfennau cyfundrefn grefyddol y Groegwr, a daeth Zeus Groeg yn Iwpiter Rhufain ac Athena'r naill yn Finerfa'r llall.

Derbyniodd hefyd rai o syniadau Groeg am natur llywodraeth. Dinas ydoedd Rhufain ei hun, a pharhaodd yn ddinas wedi dyfod ohoni yn ganolfan ymerodraeth gyfled â'r byd ac ar y syniad am ddinasyddiaeth, fel y datblygwyd ef yng Ngroeg, y sylfaenodd ei chyfundrefn llywodraeth. Pan elwid am estyn breintiau Rhufeinig i adran o'r ymerodraeth, yr arfer gyffredin fyddai sefydlu dinas yn yr adran honno ac estyn y breintiau i'r dinasyddion yn unig. Yn wir, ni fedrodd y Rhufeiniwr ymryddhau oddi wrth y syniad Groegaidd na ddichon dyn fod yn ddinesydd ond rhwng muriau tref yn unig.

O gymharu'r ddwy genedl hyn â'i gilydd, gellir dywedyd bod y naill yn gref lle yr oedd y llall yn wan, a bod rhinweddau'r naill yn llenwi diffygion y llall. Yr oedd mwy o geinder ac ystwythder ym meddwl y Groegwr, a mwy o rym ac o sefydlogrwydd ym meddwl y Rhufeiniwr. Tueddai'r naill at fod yn freuddwydiol a'r llall at fod yn ymarferol—ac o gyfuniad o rinweddau'r ddau cododd gwareiddiad a erys yn gynysgaeth i'r cenhedloedd hyd heddiw. Yr oedd cyfraniad Rhufain ei hun i'r gwareiddiad hwnnw yn un mawr a phwysig er hynny,