Ychydig o olion y bywyd hwn sy'n aros heddiw. Diflannodd y cwbl megis hun y bore. Bechan a brau oedd yr eglwys. Adeiledid hi, yn ddios, ar y cynllun Celtaidd, gydag allor garreg a lliain main i'w gorchuddio. Pres oedd defnydd y llestri cymun, am mai pres, meddai Columbanus, a ddefnyddiwyd i hoelio'r Gwaredwr. Cymysgid y gwin â dwfr, a defnyddid afrlladen gron o fara croyw. Lladin oedd iaith y gwasanaeth, a gwasanaethid gan gôr y fynachlog. Cenid emyn gan yr offeiriad yn ystod gwasanaeth y cymun. Nid oes, fe ddichon, ddim ond y croesau a geir yma ac acw ac ambell ddarn o lawysgrif yn aros i roi syniad i ni am grebwyll artistig hen saint yr eglwys Geltaidd.[1]
Nid hawdd yw penderfynu pa bryd y diflannodd yr hen gyfundrefn Gymreig ac y daeth mynachaeth Eglwys Rufain i gymryd ei lle. Dywed Gerallt wrthym fod y Culdeaid neu'r Cyldwys yn byw eu bywyd gerwin yn ynys Enlli yn ei amser ef. Perthynai iddynt hefyd dŷ crefyddol ym Meddgelert wrth droed yr Wyddfa, a bu raid i'r tŷ hwn apelio at y Pab i rwystro mynachlog Sistersiaidd Aberconwy rhag dwyn y cwbl a feddent.[2] Tybed ai hon oedd y frwydr olaf rhwng y ddwy eglwys?
Nid yw hanes mynachaeth y gorllewin yn yr oesau canol namyn hanes diwygiadau crefyddol y cyfnod. Tad y mudiad gorllewinol yn ddios oedd St. Benedict, uchelwr Italaidd a sefydlodd fynachlog ar fynydd Cassino rhwng Rhufain a Naples. At y tair adduned arferol, sef tlodi, ufudd-dod a phurdeb, ychwanegodd Benedict lafur dwylaw am o leiaf saith awr o'r dydd. Cododd pob un o'r diwygiadau diweddarach o ymdrech a wnaed gan rywun neu'i gilydd i fyned yn ôl at y delfryd a osodwyd i lawr gan Benedict yn 529. Yn 927 ymddangosodd y diwygiwr cyntaf, sef Odo, Abad Clugni ym Mwrgwndi. Gwrthododd gydymffurfio â rheol Benedict ynghylch gwaith llaw am y credai ei bod yn fwy pwysig i ddisgyblu'r meddwl. Yng nghwrs amser daeth y Benedictiaid i gael edrych arnynt fel pobl ddysgedig, barchus, foethus, yn gwybod i'r dim sut i gael gorau deufyd. Yr oedd golwg urddasol ar y mynaich mewn cochl laes o ddefnydd
- ↑ Gweler erthyglau ysgolheigaidd Harold Hughes yn Archeologia Cambrensis o 1920 ymlaen ar barhad y traddodiad artistig Celtaidd ym Môn. Early Christian decorative art in Anglesey."
- ↑ Giraldus Cambrensis: Speculum Ecclesiae, III, 8. Ar hanes y Culdeaid gweler W. Reeves: The Culdees of the British Islands.