sidanaidd du. Mynachlog Clugni oedd pen y gyfundrefn; nid oedd y mynachlogydd eraill yma a thraw ond celloedd yn dibynnu ar y Fynachlog honno.
Yn 1098 sefydlwyd urdd y Sistersiaid yn Citeaux (Lladin, Cistericum) gan Robert de Molesme. Gwir dad yr urdd, fodd bynnag, oedd Sant Bernard, a gymerodd gydag ef ddeuddeg o gyfeillion ac ymsefydlu yn nyffryn y Wermod ym Mehefin, 1115. Dyma gychwyn yr urdd fwyaf poblogaidd o'r cwbl, a'r urdd oedd i chwarae'r rhan amlycaf o ddigon ym mywyd Cymru. Gwisg lwydwen o wlanen gartref a wisgai'r Sistersiaid.
Gwnaed ymdrech i gael rheolaeth debyg ymysg canonwyr a chlerigwyr yr eglwysi cadeiriol—neu'r clas fel y gelwid hwy mewn oesau cynharach yng Nghymru. Honnent ddilyn rheol Awstin, Esgob Hippo, ond heb lawer o sail i'r traddodiad.[1] Cyfunai'r bobl hyn reol bywyd y mynach gyda gwasanaeth person plwyf.
Dwy urdd neilltuol o ddiddorol yw'r Temlwyr a'r Ysbytywyr—dwy o darddiad milwrol, a ddaeth i fod yn amser Rhyfeloedd y Groes. Cafodd yr Ysbytywyr feddiant trwy drais ar eiddo'r Temlwyr. Eu prif waith oedd estyn croeso i bererinion ar ymweliad â'r Dwyrain, a pharhaodd y nodwedd hon yn amlwg yn eu bywyd lle bynnag yr aethant.
Gwelodd y drydedd ganrif ar ddeg godi dwy urdd bwysig arall, y Dominiciaid a Brodyr Sant Ffransis. Pregethwyr yn anad dim oedd y Dominiciaid, a cheidwaid yr athrawiaeth. Fel urdd y gardod yr adwaenid y llall, am eu bod wedi ymbriodi â thlodi yn ôl delfryd yr anfarwol Sant Ffransis. Du ydoedd gwisg y Dominic a llwyd oedd eiddo'r Brodyr Cardod. Rhaid oedd cael urdd wen, a chaed un yn y Carmeliaid, a gychwynnwyd ar ben Carmel yng ngwlad Canaan.
Wrth ystyried dyfodiad y gyfundrefn fynachaidd i Gymru dylid cadw mewn cof y berthynas oedd rhyngddi â dyfodiad y barwn Normanaidd. Yn wir, fe ddefnyddid y Fynachlog weithiau fel dirprwy'r Castell, fel y moddion mwyaf effeithiol i lefeinio'r bywyd Cymreig ac i ddarostwng y genedl. Yn y de y gwelir hyn gliriaf am mai yno y perffeithiwyd y cynllun Normanaidd i ddarostwng y wlad. Fel y ceir gweld, yr oedd hanes mynachlogydd y gogledd yn wahanol.
Nid oedd mwyafrif tai crefyddol y de ond celloedd yn perthyn i dai tramor—yn Normandi, fel rheol. Sefydlid
- ↑ Ivo de Chartres a dynnodd allan y rheolau o ysgrifau Awstin.