a ddaeth yn ddiweddarach, trwy ryw dwyll, i ddwylo Sistersiaid Tŷ Gwyn ar Dâf.[1]
Ni bu'r Cluniaid erioed yn boblogaidd yng Nghymru mwy nag yn Lloegr, ac ni bu ganddynt ond cell neu ddwy, un yn Malpas, yn agos i Gasnewydd, ac un yn St. Clears.
Bu gan y Benedictiaid hynny a adwaenid fel y Tirioniaid. dri thŷ yn y de, sef Llandudoch (Dogmael), Pill, ac Ynys Bŷr yn Sir Benfro. Celloedd yn perthyn i St. Dogmael oedd Pill ac Ynys Bŷr, ac nid tai annibynnol. Tebyg oedd dylanwad y rhain i ddylanwad estronol, gormesol y castell, ond y mae pethau dipyn yn wahanol pan ystyrir helynt yr urdd arall—y Sistersiaid. Sefydlwyd yr urdd gan Robert de Molême, a bu Sais o'r enw Stephen Harding am beth amser yn ben arni. St. Bernard, fodd bynnag, a roddodd fywyd ynddi, ac y mae'r disgrifiad a geir gan ei gofiannydd o helynt y cychwyn yn Nyffryn y Wermod yn darllen fel pennod allan o fuchedd un o'r saint Celtaidd. Un adeilad hir oedd y fynachlog ar y cyntaf, yn cynnwys yr eglwys, y bwyty a'r dortur dan yr un to. Pridd oedd y llawr, a phrin odiaeth oedd y golau. Llysiau a dŵr oedd yr ymborth. Cysgai'r mynaich mewn hen lofft uwchben yr ystafell fwyd, pob un mewn cist bren gydag ychydig dorion neu ddail ynddi.[2] Nid oedd fawr ryfedd iddynt ennill calon Cymru.
Nid lle dan aden castell mewn tref Normanaidd a ddewisai'r urdd hon, ond neilltuedd dwfn y goedwig neu unigedd y glyn tawel, a saif adfeilion eu tai mewn rhai o'r lleoedd mwyaf rhamantus yng Nghymru, megis Tintern ar lan afon Wy, neu Lyn y Groes yn nyffryn Dyfrdwy. Pobl y wlad oedd y Sistersiaid, yn arloesi'r anialwch a byw ar drin eu tir a'u defaid ar "fil o fynyddoedd." Dywedir yn wir mai hwynthwy a berffeithiodd grefft magu defaid hyd lethrau Cymru. Beth bynnag am hynny, amaethwyr a bugeiliaid oeddynt, ac yr oedd hynny yn gymeradwyaeth ychwanegol iddynt yng ngolwg y Cymry.
Tarewir ni ar unwaith gan y gwahaniaeth rhwng yr urdd hon a'r urddau eraill. Arglwyddi Normanaidd oedd noddwyr y lleill, ond tywysogion Cymreig oedd noddwyr y Cisterciaid, ac wedi i'r mynaich gwynion ddechrau ymsefydlu yng Nghymru, ni fedrai tywysog Cymreig orffwys nes cael codi tŷ iddynt o fewn ei dywysogaeth.