
Tua'r de eto yr oedd y clwysgordy, lle yr ymdrinid â materion y Fynachlog bob dydd. Yma, fel rheol, y cleddid yr Abad. Uwchben yr adeiladau hyn yr oedd y dortur, lle y cysgai'r mynaich; ym mhen gogleddol yr ystafell hon yr oedd grisiau i lawr i'r côr, a gallai'r mynaich, felly, fyned i'r gwasanaeth boreol yn uniongyrchol o'u gwelyau. Yr oedd gan y sacristan ystafell y gallai weld y brif allor ohoni, er mwyn sicrhau bod golau arni bob amser. Ar ochr dde corff yr eglwys,[1] yn wyneb haul, yr oedd y rhodfeydd lle treuliai'r mynaich lawer o amser yn cerdded o gwmpas a darllen. Yr oedd to uwchben y rhodfa, ac yn ddiweddarach ffenestri yn yr ochrau, ac yno yr oedd y llyfrgell. Yng Nglyn y Groes ceir y Llyfrgell wrth ben y Sacristi. Ar ochr dde'r rhodfa yr oedd y bwyty a'r gegin a'r
- ↑ Weithiau byddai'r rhodfeydd ar du'r gogledd fel yn Nhintern a Dore.