ystafell dwymo, lle caniateid i'r mynaich fynd i ymdwymo yn y gaeaf. Byddai hefyd ysbyty i'r claf a chell neu garchar i'r troseddwr, ac ystafell lle cedwid y gweithredoedd, etc., ond ni cheid y rhain ym mhob tŷ.
Cynhelid y gwasanaeth cyntaf am hanner nos, pryd y gelwid arnynt i godi. Ai'r clochydd—y sacrist—drwy'r dortur a chanu cloch fechan i'w deffro; ac fel y dengys y rheolau, nid hawdd oedd cadw'n effro hyd yn oed yng nghôr yr eglwys. Eid i lawr y grisiau bob yn chwech, yn cael eu harwain gan un o'r brodyr ieuengaf â llusern yn ei law. Cenid nifer o salmau ac eid trwy wasanaeth yr offeren. Dilynid hwn gan wasanaeth arall, a adwaenid fel y " Laudes," ac a gynhelid. fel rheol, am un o'r gloch y bore. Yna eid yn ôl o'r gwely hyd chwech neu saith o'r gloch, pryd yr eid i wasanaeth y "Prime." Ceid bwyd am wyth o'r gloch—tafell o fara ac ychydig win neu gwrw. Yna ceid gwasanaeth wrth allor Fair. Cyfarfyddid wedyn yn y Clwysgordy i drafod amgylchiadau'r tŷ, ac yno y penderfynid penyd y troseddwr. Am ddeg o'r gloch cynhelid prif wasanaeth y dydd, ac am un ar ddeg ceid cinio. Yn ystod yr awr ginio, byddai un o'r brodyr yn difyrru'r lleill trwy ddarllen iddynt, ac y mae hen bulpud y pryd bwyd i'w weld yn y mynachlogydd mwyaf hyd heddiw. Wedi cinio, âi pawb i'w helynt—rhai i gerdded yn y rhodfeydd, rhai i weithio ac eraill i astudio yn y celloedd bychain yn y clwysdy. Ceid gwasanaeth y Gosper am chwech o'r gloch a'r Complin am saith, ac yna eid i'r gwely hyd hanner nos.
Dengys rhestr y gwasanaethyddion yn well na dim arall fywyd beunyddiol y fynachlog. Mewn tŷ annibynnol—ac yr oedd holl dai y Sistersiaid yn annibynnol y naill ar y llallceid abad. Os cell yn perthyn i dy mwy fyddai'r tŷ crefyddol, Prior y gelwid y pennaeth. Mewn tŷ o gryn faint ceid prior ac abad—y prior yn gwasanaethu fel is—abad pan fyddai'r abad yn absennol, a digwyddai hynny yn lled aml. Yn nesaf at y prior, y swyddog pwysicaf oedd y cantwr. Efô a ofalai am wasanaeth yr eglwys; eisteddai bob amser ar ochr dde y côr ac arweiniai'r gwasanaeth. Yr oedd gan y sacristy clochydd—ystafell wrth ochr yr allor. Gofalai ef am yr adeilad ac am gael popeth yn barod i'r gwasanaeth—y gwisgoedd priodol i'r gwahanol wyliau, y llestri a'r canhwyllauac efô, fel y dywedwyd, a ganai'r gloch i alw'r mynaich. Yr oedd y selerwr yn swyddog â chyfrifoldeb mawr ar ei ysgwyddau. Gofalai fod ŷd yn dyfod i mewn o'r ffermydd a