Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ym meddiant y fynachlog, a bod digon o flawd—ac o gwrw, wrth gwrs——yn barod. [Cai Canonwyr Sant Pawl 40,400 o dorthau a 67,800 o alwyni o gwrw oddi ar eu maenorydd bob blwyddyn.] Y selerwr hefyd a ofalai am bysgod erbyn dydd Gwener ac yn ystod y Garawys. Byddai swyddog arall yn gofalu am y byrddau ac yn edrych bod gwellt yn cael ei daenu ar lawr y bwyty. Yn y gegin ceid cogydd, a byddai gan ambell abad gogydd iddo'i hun. Yr oedd brawd arall yn gofalu am y cleifion. Arferid gwaedu'r mynaich bedair gwaith yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caent fyned i'r clafdy am bedwar niwrnod. Y fynachlog oedd gwesty'r cyfnod, a cheid gwestywr ym mhob un bron. Ei waith ef fyddai paratoi llety i ddyn ac anifail. Y mynachlogydd hefyd a fyddai, yn fynych, yn rhoi cymorth i'r tlodion, a byddai swyddog neilltuol—yr elusenwr—i ofalu am y gwaith. Gwaith un arall o'r brodyr fyddai addysgu'r newyddian yn y ffydd yn arferion y fynachlog ac yng nghredo'r bywyd neilltuedig.

Ychydig hwyl a gafwyd ar sefydlu tai crefyddol i ferched yng Nghymru. Edrydd Gerallt ystori a ddengys fod natur yn drech na gras yn y cyfnod hwnnw fel bron bob amser. Yr oedd Enoch, abad Ystrad Marchell, a'i fryd ar sefydlu Lleiandy yn Llansantffraid yn Elfael; syrthiodd mewn cariad à lleian, a thorrwyd ef allan dros dro. Nid hir y bu cyn dychwelyd at y bywyd crefyddol, ond ni bu fawr lewych ar Lansantffraid byth.[1]. Tri lleiandy oedd yng Nghymru, y naill yn Llanllugan, Sir Drefaldwyn, a'r llall ar lannau Aeron yn Llanllyr, a'r trydydd yng Nghaerbuga.

Trwy astudio'r Siartrau y ceir y syniad gorau am feddiannau'r mynachdai, er mai ychydig o oleuni a ddyry'r rheini ar eu bywyd beunyddiol. O gylch y fynachlog, fel rheol, byddai cyfran o dir a drinid gan y gwasanaethyddion a fyddai'n byw yn y fynachlog. Defnyddir termau ffiwdalaidd i'w ddisgrifio gan Gomisiwn 1535 (Manerium, Dominicium, etc.). Ond yr oedd ganddynt lawer o leoedd yma ac acw ar hyd y wlad, ac fel rheol un o'r cwmni neu ŵr lleyg yn edrych ar eu holau. Er enghraifft, yr oedd gan Fynachlog Glyn y Groes diroedd yng Ngwrecsam, ym Muddugre, ac ym Mwstwr (Corwen); gan Fynachlog Cymer yn Llanilltyd, Cwm Cadiau, Rhydgeirw, Llanfachreth, Trawsfynydd a Dolgellau; gan

  1. Giraldus Cambrensis: Itinerary through Wales (Everyman's Library), 54