Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wraig, Medi 12, 1522—y tenantiaid i drwsio'r tŷ ar eu cost eu hunain pan fyddai angen.[1]

Dengys cyfrifon mynachlogydd eraill, fel Talyllychau, i'r mynaich fwynhau breintiau arglwyddi tir yr oesau canol hyd y diwedd breintiau megis gwasanaeth gorfod, yr anifail gorau pan fyddai tenant farw, a dirwy ar briodas merch.[2]

Daeth y Sistersiaid yn enwog am eu defaid a'u gwlân. Âi'r rhan fwyaf ohono i'r Iseldiroedd, ond ymddengys i ymdrech gael ei wneud unwaith i'w anfon i'r Eidal, a cheir mewn hen ysgrif amcangyfrif o'r gwlân y tybid y gellid ei gael o Gymru a'i ansawdd. Diddorol yw sylwi ar enwau Italaidd yr hen Fynachlogydd:


Lagraziadio (Grace Dieu, Mynwy) 5 sachaid yn y flwyddyn.
Morghana (Margam) 25 sachaid yn y flwyddyn.
Nietta (Neath) 10 sachaid yn y flwyddyn.
Lantarname (Llantarnam) 8 sachaid yn y flwyddyn.
Tanterna (Tintern) 15 sachaid yn y flwyddyn.
Dora (Dore) 16 sachaid yn y flwyddyn.
Istanforte (? Ystrad Fflur) 12 sachaid yn y flwyddyn.
Biancilanda (Tŷ Gwyn ar Daf) 15 sachaid yn y flwyddyn
Basingvecchi (Basingwerk) 10 sachaid yn y flwyddyn[3]

Bu'r Sistersiaid yn hynod boblogaidd yng Nghymru, fel y dengys cywyddau'r cyfnod, ac uchelgais pob bardd a thywysog oedd cael bedd yng nghwfaint y Fynachlog, wedi "cymryd ohono abid crefydd," ys dywed y croniclau. Fel y dywed Gruffydd Gryg:

Yr ywen i oreuwas,
Ger mur Ystrad Fflur a'i phlas;
Da Duw wrthyd, gwyn fyd gwydd,
Dy dyfu yn dŷ Dafydd.

—cyfeiriad at orffwysfan y digymar ap Gwilym.[4] Yn Ystrad

  1. Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
  2. Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
  3. Gweler yr Atodiad.
  4. Ceir modd bynnag farwnad i Dafydd gan Hopcin ap Tomas ap Einion o Ynys Dawe (1380) lle y dywedir ei gladdu mewn "lle uch dwr Tal llychau deg.'