ei gwasanaeth pennaf hi, yn ddiau, ydoedd lledaenu dysg a diwylliant Groeg dros wledydd y Môr Canoldir. Hyhi a roddodd i ran fawr o gyfandir Ewrop yr heddwch a'r diogelwch na ddichon bywyd gwâr fyw hebddynt, a thu mewn i derfynau'r ymerodraeth bu'r heddwch hwnnw—y Pax Romana fel y gelwid ef yn ffaith ym mywyd y cyfandir am gannoedd o flynyddoedd. Trwy gydol y canrifoedd hynny bu nerth Rhufain yn wrthglawdd rhag cenhedloedd ffyrnig y gogledd a dorrodd yn ddiweddarach dros derfynau'r ymerodraeth a'i gadael yn garnedd.
Dywedwyd uchod i Rufain dderbyn yn rhwydd lawer o arferion a syniadau Groeg. Yr oedd hyn yn wir ym myd llenyddiaeth, ac am hynny nid yw llên Rhufain agos bwysiced â llen Groeg yn hanes datblygiad y celfyddydau. Yng Ngroeg y datblygwyd y prif ffurfiau llenyddol, a mabwysiadwyd hwy gan Rufain. Er hynny, defnyddiwyd hwy gyda'r fath fedr gan awduron fel Fersil a Horas, Ofydd a Chicero, a bu i weithiau'r awduron hynny y fath ddylanwad, nes i'r iaith Ladin, y cyfansoddent ynddi, gael ei chydnabod am ganrifoedd yn briod iaith diwylliant a dysg. Ochr yn ochr â cheinion llenyddiaeth Groeg erys arddull a meddwl Rhufain yn batrwm ac yn symbyliad i feddwl y byd. Nid trysorau marw mohonynt, ond cynysgaeth fywiol sydd wedi ei chyfrodeddu â meddwl gorau dynoliaeth, a buasai gwedd wahanol iawn ar lenyddiaeth y gorllewin oni bai am y cyfoeth a etifeddodd o Rufain, a thrwy Rufain o Roeg.
Ail i Roeg oedd Rhufain ym myd athroniaeth hefyd, oherwydd derbyniodd y Rhufeiniwr athroniaeth y Groegwr, heb ychwanegu ond ychydig iawn ati. Y mae'n wir i Cicero, er enghraifft, sgrifennu llyfr neu ddau yn ymdrin â phynciau athronyddol, ond ni cheir ynddynt ond yr hyn a gafwyd cyn hynny yn Timaeus a Bywyd Cymdeithas Plato. Dichon mai'r gwaith athronyddol pwysicaf a gynhyrchodd Rhufain oedd De Rerum Natura Lucretius, ond cydnebydd yntau ei fod dan ddyled i'r Groegiaid. Epicurus, un o athronwyr Athen, oedd ei batrwm, a'i ddilyn ef oedd ei ddelfryd; ac astudiaeth fawr— eddog yw ei lyfr ar yr athroniaeth Epicuraidd mai pleser yw'r daioni pennaf. Cais ddarbwyllo'i gyfoeswyr rhag derbyn ofer— goelion ei ddydd; rhag credu y gallai'r duwiau ymyrraeth ag amgylchiadau dynion; a rhag cael eu dychryn gan fygythion y dichon cosb ddilyn yr enaid mewn byd arall.