Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Elfael—a achosodd gymaint siarad yn amser y glepwraig honno, Gerallt Gymro. Bu cymaint helynt hefyd yn Ystrad Marchell yn amser Edward III nes anfon o'r penadur hwnnw lythyr at bennaeth yr Urdd yn Citeaux yn erfyn arno symud y mynaich Cymreig, "oedd wedi ymroi i drythyllwch ac yn difa eiddo'r tŷ," a rhoi Saeson yn eu lle, a hynny a wnaed. Ond pan gofir mai John de Charlton, Arglwydd Normanaidd Powys, oedd wrth wraidd y cais, ni ellir rhoi dim pwys ar ei dystiolaeth. Y tebyg yw mai'r gwir reswm oedd ei fod yn awyddus am gael y mynaich yn fwy darostyngedig i'w ewyllys ef. Nid oes dim sail, beth bynnag, i'r hyn a ddywed amdanynt yn difa'r eiddo.[1] Llosgwyd y Fynachlog yn amser gwrthryfel Glyn Dŵr, ac y mae'n bosibl na bu llawer o drefn ar bethau yno wedyn.

Yn ddiweddar, daeth Mr. Edward Owen ar draws copi o "indwlgens" diddorol iawn yn dal perthynas â'r Fynachlog hon, wedi ei arwyddo gan y Cardinal Wolsey, ac wedi ei brintio, y mae'n debyg, tua'r flwyddyn 1528.[2] Dyma, ym marn Mr. Owen, y darn printiedig cyntaf a feddwn yn ymwneud â Chymru. Yn hwn cynigir i'r sawl a ymwelo â'r Fynachlog ar ddygwyliau neilltuol 10 mlynedd a 10 mis a 140 niwrnod o ryddhad o'r Purdan. Rhyddheir hwy hefyd o bob llw a gymerwyd ganddynt, ac os byddent yn glerigwyr, caent ganiatâd i gael allor symudol i offrymu arni y man y mynnent. Caent hefyd fwyta wyau, ymenyn, caws a llaeth—a chig hefyd, ond cael caniatâd y meddyg—yn ystod tymor y Garawys, a chaent ran a chyfran yn y rhinweddau a ddeilliai o offrymau a gweddïau'r Fynachlog. Gwerthid y pardynau hyn er budd y tŷ, a diddorol yw cofio mai gwaith Tetzel yn gwerthu pardynau tebyg a ddeffrôdd angerdd Luther ac a roddodd fôd i'r Diwygiad Protestanaidd. Dyma ymdrech olaf y tŷ crefyddol hwn, y mae'n debyg, i geisio cael ychydig arian i atgyweirio'r eglwys, oedd yn adfail, fe ddichon, er dyddiau Glyn Dŵr.

Yn yr un flwyddyn, ar y ddeunawfed o Awst, rhoddodd Wolsey bardwn i hen fynach o Lyn y Groes, a'i rhyddhaodd oddi wrth y penyd a haeddai am beidio â gwisgo dillad yr Urdd; caniatawyd iddo hefyd wisgo lliain yn nesaf at ei groen a leggins am ei goesau, oherwydd ei wendid—"o liw gweddus dan ei wn," a chafodd ganiatâd hefyd i siarad yn ddistaw yn y

  1. Mont. Coll., V, 147
  2. Cymmrodor, XXIX, 1—32.