y carcharorion yn Nhŵr Llundain, pan y'i rhoddwyd ef a'i gyfaill Hall yn ddiogel yn y Tŵr Gwyn am gyfnod.3[1] Yr oedd yno ar y chweched o Orffennaf y flwyddyn honno (1535). Ond ymddengys oddi wrth yr hyn a ddywedwyd uchod iddo gael ei ryddhau rywbryd cyn ymweliad y Ddirprwyaeth â Glyn y Groes yn Awst.
Anodd yw peidio â theimlo mesur o dristwch wrth sylwi ar fanylion yr ychydig gelfi oedd ym meddiant y BrodyrLlwyd a Du a Gwyn fel ei gilydd—pan ddaeth yr amser iddynt drosglwyddo eu heiddo i ddwylo'r Brenin.[2]
Ymddengys fod tŷ'r Ffransisiaid yng Nghaerfyrddin dipyn cyfoethocach na'r rhelyw ohonynt. Yr oedd gan y sacristan bentwr o ddillad ar gyfer y gwasanaeth. Yn eu mysg enwir siwt o sidan gwyn, gyda darlun o nifer o greaduriaid wedi eu gweithio mewn aur ar y cefn, ac un arall ddu gyda darlun o'r apostolion mewn brodwaith ar y cefn.
Yr oedd yno hefyd nifer o lieiniau i'w rhoi ar yr allor a chloch fechan at wasanaeth yr offeren, darn o frethyn du i'w daflu dros yr arch mewn angladd, a hefyd "a goodly pair of orgaynes."
Yn un o'r ystafelloedd ystafell y Brenin y gelwid hiyr oedd gwely plu gyda gobennydd a phâr o wrthbannau a chynfasau. Yn y gegin yr oedd dau gawg pres, pedwar plât piwter, II picyn, dysgl a melin fwstard; yn y bragdy, padell bres a cherwyn neu ddau at ddarllaw cwrw.
Yr oedd y rhan fwyaf o'r dodrefn gorau a hyd yn oed aml groes werthfawr wedi eu rhoi i fasnachwyr ar gyfer dyledion y tŷ, ac yr oedd rhyw gymaint o lestri wedi eu rhoi yn fenthyg i'r castell.
Dywedir i Frodyr Duon (Dominiciaid) Rhuddlan ymddiswyddo heb unrhyw orfodaeth, " for very poverty," a rhoddir enwau'r chwe brawd oedd yno ar y pryd. Nid oedd ganddynt wely o fath yn y byd, na dim dodrefn o unrhyw werth, ond yr oedd ganddynt ddwy fuwch a phum mochyn, a gwerthwyd y rheini i dalu'r ddyled oedd arnynt.