dau fath ar fwa yn yr oesau canol, sef y bwa croes a'r bwa hir. Yr oedd y bwa croes ar yr un llun â dryll diweddarach, gyda'r bwa wedi ei osod ar draws a'r saeth yn cael ei gollwng ar hyd rhigol yn y dryll. Saethid o'r frest, fel rheol. Bwa syml cyffredin oedd y bwa hir, o ywen neu o lwyfen, fel y dywed Gerallt. Saethid o'r glust, ac mor gryf oedd y bwa fel nad oedd dim a allai wrthsefyll y saeth pan ollyngid hi. Gwŷr Gwent, meddai Gerallt, oedd y cyntaf i berffeithio'r gelfyddyd o'i ddefnyddio, a rhydd enghreifftiau eithriadol o'i effeithiolrwydd. Y tro diwethaf, meddai, y cymerwyd castell Abergafenni, bu agos i ddau o'r gwarchodlu gael eu dal gan y Cymry a saethai ar eu holau; aeth rhai o'r saethau a ollyngwyd ganddynt trwy ddrws derw'r tŵr, ac yr oedd hwnnw o drwch pedwar bys. Gadawyd y saethau yno er cof am y digwyddiad. Tystiai William de Braose, Arglwydd Normanaidd Abergafenni, i un o'r saethau hyn fynd trwy goesarf a chlun un o'i farchogion ef, ac yna trwy gyfrwy ei geffyl a'i ladd. Saethwyd milwr arall trwy ei ddwy glun ac felly ei hoelio wrth ei geffyl."[1]
Creodd arf mor effeithiol a hwn chwyldroad yn hanes milwriaeth yr oesau canol, a hyd nes daeth y powdwr gwn, y bwa saeth a benderfynai dynged rhyfeloedd y gorllewin; a Chymry Gwent fu'n dysgu'r Sais a'r Ffrancwr pa sut i'w ddefnyddio. Yn y ddeuddegfed ganrif, y bwa croes a ddefnyddid yn bennaf, ond yn yr Assize of Arms, 1252, dywedir bod y bobl gyffredin i ymladd, nid gyda chleddyf a chyllell fel cynt, ond gyda'r bwa hir.[2] Ymddengys mai Edward I oedd y cyntaf i weled ei werth yn llawn. Ym mrwydr Pont ar Irfon, yn agos i Lanfair ym Muallt, y dangoswyd ei ragoriaeth gyntaf, pryd y gorchfygwyd y Cymry gan saethwyr o'r de oedd ym myddin Edward.[3] Yn ystod y rhyfel â'r Sgotiaid, ar ôl gorchfygu Cymru, daeth yr arf i'w lawn rymuster, ond hyd yn oed yn 1277, pan oedd Edward yn ymosod ar ogledd Cymru, yr oedd ganddo, meddir, 9,000 o wŷr o'r de, a'r rhan fwyaf ohonynt yn saethwyr o Went. Rhaid cofio, wrth gwrs, fod y de dan draed arglwyddi'r goror neu ym meddiant y goron ymhell cyn darostwng gogledd Cymru, a milwyr y parthau hynny oedd ym myddin Edward. Ym