Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/313

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mrwydr Falkirk yn 1298 yr oedd Wallas wedi trefnu ei fyddin yn bedair rhan—"schiltrons," fel y geilw'r croniclau hwy—ac er ceisio yn ddygn methai'r gwŷr meirch a'u syflyd. Ond pan alwodd Edward y gwŷr meirch yn ôl a rhoi cyfle i'r saethwyr gwŷr o'r de yn bennaf—fe drodd y frwydr o'i du. Ym mrwydr Crecy, 1346, yr oedd y marchogion yn eu holl rwysg fel cynrychiolwyr Ffiwdaliaeth ar ei gorau. Gosododd Edward III ei wŷr meirch yn y canol a'r saethwyr o boptu iddynt. Cyn i'r Ffrancod gael amser i anelu gyda'u bwâu croesion, yr oedd y Saethwyr yn eu medi i lawr nes y gorfu iddynt gilio o'r ffordd. Yna dechreuodd y gwŷr meirch garlamu i gyfeiriad y fyddin Seisnig, ond ni allent gyrraedd eu nod. Lleddid march a marchog fel ei gilydd. Dywedir i farchogion Ffrainc wneud ymdrech gyffelyb tua phymtheg gwaith, ond bob tro yn aflwyddiannus. Gadawyd pymtheg cant o farwniaid Ffrainc a'i marchogion—hufen ei chyfundrefn—a thros ddeng mil o wŷr traed yn gelanedd ar y maes.[1]

Gyrrodd y fuddugoliaeth hon ias trwy galon Ewrop, a phan wnaed yr un peth drachefn yn Poitiers, yr oedd yn bryd credu bod tro ar fyd wedi dyfod yn hanes arfau rhyfel.

Yn ffodus, y mae gennym gryn lawer o fanylion am y rhan a fu i'r Cymry yn y brwydrau hyn. Yr oedd Cymry wedi bod yn brwydro ym mrwydrau Edward yn Fflandrys yn 1297, cyn eu defnyddio yn Ysgotland, a chafodd hen groniclydd o'r wlad honno hwyl wrth syllu ar arferion od y bobl o Gymru bell.10 Lodewyk van Velthem oedd enw'r croniclydd. Gweler erthygl ddiddorol gan Mr. D. L. Evans o'r "Public Record Office" yn Cymmrodorion Transactions, 1925—26: "Notes on the History of the Principality of Wales in the time of the Black Prince (1343—76)." Daeth Edward," meddai, " â nifer o filwyr gydag ef o Gymru, gyda rhai o Loegr hefyd. Daethant i Ghent, ac yno gellid astudio arferion nodedig y Cymry. Rhedent oddi amgylch yn droednoeth hyd yn oed yn nyfnder gaeaf. Gwisg— ent fath o gochl goch amdanynt. Nid oedd bosibl eu bod yn gynnes yn honno. Pan gaent arian gan y Brenin, fe'u gwarient ar laeth ac ymenyn. Nid oedd waeth ganddynt ymhle yr yfent ac y bwytaent. Ni welais hwy erioed yn arfog. Sylwais yn fanwl arnynt i weled pa arfau amddiffyn oedd ganddynt yn myned i ryfel. Eu harfau oedd bwa a saeth, cleddyfau a phicellau. Gwisgent liain yn nesaf at y croen. Yr oeddynt

  1. Oman: Military Architecture and the Art of War, 70. (Yn Barnard's Companion to English History (Middle Ages).)