Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceisio aur i'm cysuraw,
A chael drwg wrth chwilio draw
Yn wan iawn, yn union noeth
Yn flin ac yn ful annoeth.
Nid ennillais bais lle búm,
Duw, o'r daith adre daethum.

—EDWARD AP RAFF O DDYFFRYN CLWYD.

Rhoddodd yr erfyn newydd, felly, gyfle i'r Cymro i ddangos ei ddewrder a'i allu milwrol ar lwyfan Ewrop, a daw enw aml hen wron gerbron wrth geisio atgofio'r cyfnod diddorol hwn. Er enghraifft, Hywel y Fwyall, a ga'r clod am ddal brenin Ffrainc; Mathew Goch, a achubwyd rhag cael ei ddal ym mrwydr Formigny (1450) gan ei gyfaill, Gwilym Gwent, ond a syrthiodd ar Bont Llunden wrth ymladd yn erbyn lluoedd Jack Cade—Cymro da ei Gymraeg, meddai Guto'r Glyn am Fathew. Gresyn i'r hen wron syrthio wrth ymladd yn erbyn gwerin ddeffroedig Lloegr[1]; Dafydd Gam, a wnaed yn farchog ar faes Agincourt, yn ôl hen draddodiad, ac a wnaeth rywbeth trwy ei ddewrder yno i dynnu'r staen oedd ar ei enw er pan geisiodd ladd Owain Glyn Dŵr; Ieuan de Galles, y sonia Froissart amdano, ac eraill.

Fe'u cadwai'r hen farchogion hyn eu hunain yn ddiddig pan na byddai'n rhyfel trwy gynnal twrneimaint a hela. Yn y twrneimaint ceisiai dau neu ragor o farchogion fwrw ei gilydd oddi ar eu meirch â phicellau heb eu blaenllymu.[2] Byddai lluoedd yn myned i weld yr ymarferiadau hyn, a gwobrwyid y gorchfygwr gan un o'r boneddigesau a fyddai'n llygaid dyst o'r ornest. Fel y gwyddys, byddai raid i'r marchog, yn ôl rheolau caeth sifalri, gymryd llw o ffyddlondeb i feinir arbennig, a byddai'r rhianedd hyn yn tyrru i weld y marchogion yn ymladd eu brwydrau hwy ar lawnt y castell neu ryw fan cyfleus. arall. Ceir amryw gyfeiriadau atynt yn y Mabinogion. Pan gyfarfu Peredur â'r marchog, dywedir iddo ei daro yn ei wegil—un o fannau gwan yr arfogaeth. Ceir yr un ymadrodd yn hanes Arthur, lle dywedir i'r marchogion wrthod ei roddion am eu bod yn rhy debyg i ddyrnod ar y gwar. Yn yr ornest rhwng Owain a Gwalchmai, nid adwaenai'r naill y llall hyd nes trawodd Owain helm Gwalchmai ymaith a gweled ei wyneb. Pan ganfu pwy ydoedd, cynigiodd iddo ei holl arfogaeth, ond mynnai Gwalchmai, ar y llaw arall, mai Owain a orfu—

  1. Gweler erthygl ar " Fathew Goch" yn y Cymru, Chwefror, 1907.
  2. Ceir desgrifiad o dwrneimaint gan Lewis Glyn Cothi yn hanes rhyfel Plant Tomas yn Aber Marlais.