Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enghraifft dda o'r modd y byddai'r naill farchog yn ymddwyn at y llall wedi ei orchfygu. Yr oedd raid i'r marchog gymryd llw i fod yn ostyngedig yn ogystal ag yn ddewr.

Yn rhamant Geraint, ceir disgrifiad manwl iawn o dwrneimaint a gynhaliwyd ar y lle y saif tref Caerdydd arno heddiw, pryd y cynigiwyd hebog yn sefyll ar wialen arian yn wobr i'r gorchfygwr. Fel y nesái Geraint at y dref o gyfeiriad Caerlleon ar Wysg, gwelai fod pob man yn llawn o wŷr a meirch, a phawb wrthi â'i holl egni yn gloywi tariannau, yn hogi cleddyfau ac yn pedoli meirch, fel nad oedd hamdden ganddynt i gymryd fawr sylw o Geraint. Wedi dyfod ychydig ymhellach, gwelodd faes ac ynddo ddau bolyn wedi eu gosod ar wialen arian yn gorffwys arnynt. Dywedwyd wrtho beth a arwyddai hyn, a bod marchog eisoes wedi ennill yr hebog ddwywaith. Yr oedd pob marchog hefyd i ddyfod â'i gariadferch gydag ef i'r ornest. Cododd Geraint yn fore ac ymwregysodd, a phan alwodd y marchog—oedd eisoes wedi ennill y gamp ddwywaith —ar ei gariad i estyn y gwalch oedd i ddyfod yn wobr iddo ef y tro hwn, rhoes Geraint her iddo trwy ddywedyd bod yno lanach ac urddasolach merch na'i gariad ef. dyma ddechrau ymosod nes oedd y picellau y naill ar ôl y llall Ar hynny, yn chwilfriw, ond o'r diwedd rhoddodd yr herwr a'i noddai bicell arbennig i Geraint, a chyda honno llwyddodd i daflu'r marchog.

Un o gynyrchion mwyaf diddorol y cyfnod ydoedd y marchog crwydr (knight errant)—gŵr a wnai farchogwraeth yn fywoliaeth. Nid oedd fawr bwys ganddo o blaid pwy yr ymladdai. Crwydrai o dwrneimaint i dwrneimaint, o wasanaeth un brenin neu arglwydd i wasanaeth un arall, a themtio ffawd yma ac acw. Pan enillai'r dydd yn y twrneimaint, byddai ganddo hawl i gael march ac arfau'r gorchfygedig yn ogystal a'r wobr a gynigid.

Bu un o'r cymeriadau hyn yn gwneud gorchestion ar ororau Cymru, a chafodd gryn ddylanwad ar feddwl a dychymyg ei gyfnod. Norman ydoedd y gwron hwnnw, o'r enw Ffwg Fitzwarin, perchennog Castell y Dre Wen, gerllaw Croesoswallt.[1] Ceir hanes amdano, yn gymysg â rhamant, mewn cronicl wedi ei sgrifennu yn Ffrangeg afrywiog y Normaniaid, ond y mae'n amlwg bod yr awdur, pwy bynnag ydoedd, wedi ceisio nyddu stori Ffwlc ar gynllun yr hen ganeuon arwrol—

  1. Ceir argraffiad hwylus o stori Ffwlc yn y King's Classics, wedi ei throsi i'r Saesneg gan Alice Kemp—Welch.