y Chansons de Geste—sydd ymysg pethau boreaf llenyddiaeth Ffrainc. Erys darnau helaeth o'r stori ar gân, a diau mai fel barddoniaeth yr ysgrifennwyd hi ar y cyntaf. Egyr yr hanes yn amser Ebrill neu Fai, amser y dolydd a'r porfeydd gwyrddion a phopeth yn adfywio ei nerth ac yn ymwisgo mewn prydferthwch—dyma ddull traddodiadol y cyfnod a dull a fu yn hynod boblogaidd ymysg y Trwbadwriaid ac yn arbennig y

Trwferwyr, a thybir sgrifennu'r gân hon gan Drwfer oedd yng ngwasanaeth Warin fel bardd teulu. Dengys llên Cymru hefyd i Ffwg adael argraff ddofn ar feddwl y cyfnod, ac iddo ddyfod i gael edrych arno fel y teip uchaf o ryfelwr. "Llew ac awch Ffwg," meddir am Feredydd ap Ifan yng nghywydd Llewelyn ap y Moel." Gair Ffwg goreu gŵr a ffon," meddai Dafydd Nanmor. "Un cymhar Ffwg ap Gwarin," meddai Gwilym ap Ieuan Hen. Prin y medrai'r beirdd ganmol dewrder marchog heb gyplysu ei enw ag enw Ffwg.
Diddorol yw sylwi ar y modd y tyfodd y traddodiad hwn ar ororau Cymru, ac mai yng Nghymru ac ar y goror y cyflawnodd Ffwg ei orchestion pennaf. Dechrau'r stori gyda dyfodiad y Concwerwr i'r wlad, ac Owain Gwynedd yn diffeithio'r goror o Gaer i "Fount Gilbert," a phob tref rhwng Caer a'r