Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wron Cymreig,[1] a laddwyd mewn modd mor annheilwng gan un a honnai fod yn gyfaill iddo pan oedd ef a'i fryd ar ddarostwng un o'r cestyll pwysicaf a feddai'r Saeson yn Ffrainc. Cwsg yr hen wron yn hen eglwys St. Leger, ar lan afon Gironde.[2]

Disgynnai Owain o Rodri, brawd ieuengaf Llewelyn y Llyw Olaf, ac felly nid disail yr haeriad mai efo oedd gwir dywysog Cymru. Bu farw ei dad, Thomas, ym mis Mai, 1363. Ymddengys nad oedd gan Thomas ddim eiddo yng Nghymru ag eithrio maenor Plas yn Dinas ym Mhowys, ac oni buasai i Owain ddychwelyd i'r wlad a hawlio ei etifeddiaeth, buasai honno wedi syrthio i ddwylo gwancus Charlton, Iarll Powys. Rhaid bod hyn rywbryd cyn Tachwedd, 1365, pryd y cydnabu'r Siansri mai Owain oedd y gwir etifedd.

Dychwelodd i Ffrainc tua mis Mawrth, 1366, ond ni thorrodd y rhyfel allan hyd 1369. Erbyn 1371 yr oedd Owain a chefnder iddo o'r enw Ywain Apers (Ap Rhys) wedi cyflogi i ymladd yn yr Yswisdir, ac y mae'r cytundeb a wnaethant ar gael o hyd. Yr oedd Owain i gael 400 ffranc y mis, ac Apers 100, ac os llwyddent i feddiannu tref, hwynthwy oedd i gael yr ysbail.[3]

Y mae ar gael ddisgrifiad gweddol fanwl o eiddo ei dad yn 1363—yr eiddo a ddaeth i feddiant Owain yn 1365. Nid oedd y Plas yn werth dim—hynny yw yr oedd cost ei gadw yn fwy na'r enillion. Yr oedd yno 10 acr o dir âr yn werth 8/yn y flwyddyn, a dwy acr o weirglodd yn werth 2/—. Hefyd, goedwig a phorfa, gwerth 2/—, a mân goed eraill heb fod o ddim gwerth; dwy felin ddŵr, gwerth 20/—; rhent y tenantiaid caeth a rhydd, 10 marc (13/4); gwaith y tenantiaid caeth yn werth 4/—; enillion y llys, 40/—. Saif Plas yn Dinas mewn penelin ar afon Fyrnwy, yng nghwr isaf dyffryn Meifod, yn agos i Lansantffraid ym Mechain. Os bu Owain yno o gwbl, diau y teimlai fod bywyd tawel arglwyddiaeth fechan a'i hincwm prin yn anghydnaws â safle gŵr a hawliai fod yn llinach tywysogion Cymru, ac a oedd hefyd yn un o eilunod milwrol ei gyfnod.

Ond gwnaeth Cymru fwy na magu ac addysgu marchogion. Mewn oes orthrymus, ryfelgar, pan oedd pawb megis â'i law yn erbyn ei gymydog, nid oedd neb yn fwy poblogaidd na'r gŵr a fedrai ymladd ei frwydrau ei hun, a dyma yn ddiau y rheswm

  1. Gweler Cymmrodorion Transactions, 1900: "A famous Powysland hero."
  2. Yr oeddwn wedi bwriadu cael darlun o Eglwys Léger i'w roddi wrth ochr Plas yn Dinas, ond cefais air gan Faer St. Léger yn dywedyd ddarfod ddistrywio yr hen eglwys yn 1884.
  3. Gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, December, 1928.