Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

paham y daeth y marchog crwydr i gael ei ystyried fel math o eilun y cyfnod. Hawdd fuasai i'r cyfryw un fyned yn ddeddf iddo ei hun yn ogystal ag yn feistr ar ei amgylchiadau. Ond un o bethau rhyfeddaf y cyfnod oedd caethiwed y rheolau yr oedd raid i'r marchog eu cadw. Daethpwyd i deimlo yn fore iawn fod rhaid iddo ef, yn anad neb, wrth reol i'w gadw rhag datblygu yn orthrymwr, ac i'r amcan hwnnw y dyfeisiwyd rheolau Sifalri. Nid yn unig fe ddisgwylid i'r marchog fod yn ddewr, ond yr oedd y dewrder hwnnw i fod bob amser at wasanaeth y gwan a'r gorthrymedig. Dyma, fe ddichon, y rheswm paham y cysylltid yr ymladdfeydd â merch; yr oedd y marchog i ymladd nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn eraill. Gwelir dylanwad yr Eglwys yn amlwg iawn ar y sefydliad hwn. Y mae i'w weled yn amlwg yn seremoni'r mabwysiadu gŵr yn farchog ("dub" yw'r gair Saesneg, o'r gair Ffrangeg adoubé," adopted). Yr oedd rhyw gymaint o wasanaeth crefyddol ynglŷn â'r seremoni hyd yn oed yn y nawfed ganrif, ond erbyn y ddeuddegfed ganrif yr oedd yn gyfangwbl grefyddol.

Yn gyntaf, fe drochid y sawl oedd yn awyddus am ymuno ag urdd y marchogion, fel arwydd o buredigaeth, ac yna ei wisgo mewn gwisg glaerwen, fel arwydd ei fod wedi ei buro; yna mewn gwisg goch, fel arwydd o'r gwaed yr oedd yn sicr o'i golli yng ngwasanaeth y ffydd, ac yna mewn gwisg ddu, fel arwydd y byddai i angau, ryw ddiwrnod, gael y llaw uchaf ar y dewraf. Yna treulid noson yn ymprydio o fewn yr eglwys, ac yn y bore cyffesai ei bechod a chymryd cymun. Wedyn eid trwy wasanaeth yr offeren, a thraddodid pregeth ar ddyletswyddau'r bywyd newydd. Yna dynesai'r marchog at yr allor a'i gleddyf yng nghrog wrth ei wddf. Cymerai'r offeiriad y cleddyf ac wedi ei fendithio, rhoddai ef ar war y marchog; âi yntau a phenlinio gerbron ei arglwydd, ac arfogai hwnnw ef yn farchog. Cymerid rhan yn yr arwisgo gan foneddigesau fyddai'n bresennol yn y gwasanaeth yn ogystal a chan farchogion eraill.[1]

Erbyn hyn yr oedd yn aelod o urdd barchusaf y cyfnod. Bu Llys Sifalri yn uchel ei fri yn y wlad hon am lawer canrif. Collodd rywfaint o'i awdurdod ar ôl cyfnod Rhyfel y Rhosynnau, ond fe'i atgyfodwyd dros dro gan Siarl I. Erbyn y ganrif ddilynol, fodd bynnag, yr oedd, yng ngeiriau Blackstone, wedi syrthio i ddiystyrwch ac yn anarferedig.21 [2]

  1. Gweler Guizot: History of Civilization (Cyf. Saesneg), III, 108 et. seq.
  2. Gweler Barnard yn Companion to English History, 44.